- Nos Da, Tanwen a Twm
- ISBN: 9781845278199
- Luned Aaron
- Cyhoeddi: Mehefin 2021
- Darluniwyd gan Huw Aaron
- Addas i oed 7-9+ neu Cyfnod Allweddol 2/3
- Fformat: Clawr Meddal, 251x212 mm, 32 tudalen
Tic, toc, tic, toc, Amser gwely medd y cloc. Mae'n amser noswylio i Tanwen a Twm, ond tydi nhw ddim yn barod i gysgu eto... Cyfrol dyner a doniol gan Luned a Huw Aaron am deulu bach yn setlo gyda'r hwyr.
Bywgraffiad Awdur:
Mae Huw Aaron yn gartwnydd, arlunydd ac awdur o brofiad, ac wedi cyfrannu cartwnau i gannoedd o lyfrau a chylchgronnau yn Nghymru a thu hwnt. Cafodd Ble Mae Boc ac Y Ddinas Uchel eu henwebu ar restr fer gwobr Tir na n'Og yn 2019 a 2020, ac enillodd Yr Horwth categori plant a phobl ifanc gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2020.
Sefydlodd Huw y comic poblogaidd, Mellten yn 2016, a chafodd 11,000 o gopïau o'i lyfr comic Seren a Sbarc yn Achub (Cwpan) y Bydysawd, ei ddosbarthu i ysgolion ledled Cymru yn 2019. Yn ystod cyfnod clo 2020, sefydlodd Huw y sianel You Tube 'Criw Celf', gyda'i fideos wedi eu gwylio dros 100,000 o weithiau.
Mae Huw hefyd yn cyd-gyflwyno'r rhaglen 'Ceri Greu' ar S4C, yn dysgu ac ysbrydoli plant i arlunio a chreu celf eu hunain. huw@huwaaron.com
Mae Luned Aaron yn gyn enillydd gwobr Tir na n-Og yn 2017 am ei chyfrol ABC Byd Natur, mae ei chyfres boblogaidd Byd Natur (Gwasg Carreg Gwalch) yn cyfuno dulliau collage a pheintio lliwgar, gan gyflwyno plant Cymru i rai o ryfeddodaur byd ou cwmpas. Mae ei g?r, Huw Aaron, a hithau wedi sefydlu gwasg gyhoeddi llyfrau i blant a phobl ifanc, sef Llyfrau Broga. Maen byw gydai theulu yng Nghaerdydd mewn t? llawn llyfrau.
Gwybodaeth Bellach:
Dau deigr bach chwareus, Tanwen a Twm, sydd yma, yn setlo i lawr am y nos. Sut noson fydd ou blaenau tybed?
Bydd i'r gyfrol eirfa syml dros ben, gyda chyffyrddiadau o odl a mydr chwareus ar brydiau. O ran ei diwyg, bydd iddi ddelweddau annwyl a lliwgar i asio â'r testun.