This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Ennyd

  • £7.00
  • £0.00
  • ISBN: 9781845275976
  • Luned Aaron, John Emyr
  • Cyhoeddi Mawrth 2017
  • Fformat: Clawr Caled, 210x130 mm
Lluniwyd y gyfrol hon ar y cyd rhwng yr arlunydd Luned Aaron a\'i thad, y llenor John Emyr. Munudau dros dro a ddethlir yma: profiadau cyntaf, defodau teuluol a\'r momentau gwerthfawr hynny a rannwn gyda\'n plant a\'n hwyrion. Mwynhewch y cyfuniad sensitif o gerddi a darluniau.

Bywgraffiad Awdur:
John Emyr
Llenor a golygydd. Mae Y Bae a Cherddi Eraill, Gwasg Gomer, ymhlith ei gyfrolau. Bu\'n fuddugol yng nghystadleuaeth y Gadair a’r Goron yn Eisteddfod Môn, a chipiodd wobrau’n ogystal yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Gwasanaethodd fel Golygydd Cofnod y Trafodion yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Luned Aaron
Gwelir ei gwaith mewn amryw o orielau a deillia nifer o\'r lluniau yn Ennyd o sioe unigol a gafodd yn Safle Celf Canolfan Gelfyddydau Galeri, Caernarfon. Luned Aaron a luniodd y gyfrol boblogaidd i blant ABC Byd Natur, Gwasg Carreg Gwalch. Mae\'n byw yng Nghaerdydd gyda\'i gŵr Huw a\'u merched, Eos ac Olwen.