- O Egin i'r Gegin
- Russell Jones
- ISBN: 9781845274870
- Cyhoeddi: Tachwedd 2014
- Fformat: Clawr Meddal, 210x210 mm, 160 tudalen
Yn y gyfrol hon, mae Russell a Jen Jones yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau garddwriaethol, oll yn eu trefn amseryddol fesul mis. Drwy gyfrwng eu cynghorion, gallwch chithau hefyd roi tro ar fyw yn fwy cynaladwy. Ceir yma ganllawiau ar gyfer dewis pa gynnyrch i'w dyfu, sut i ofalu am eich planhigion a beth i'w wneud â ffrwyth eich llafur o dymor i dymor.
Faint ohonom sy’n breuddwydio am greu gardd yn llawn ffrwythau, llysiau a pherlysiau, cynnyrch y medrwn ei ddefnyddio mewn ryseitiau blasus drwy’r flwyddyn, ond sydd angen ychydig gyfarwyddyd ar sut i fynd ati? Yn llyfr Russell a Jen Jones, O Egin i’r Gegin, cawn gipolwg ar gynnyrch eu gardd yn eu cartref ym Mryn Meddyg drwy’r flwyddyn yn ogystal â ryseitiau diddorol, gan gynnwys sut i goginio cawl dail poethion a gwneud mêl lafant.
Mae Russell yn wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C. Bu'n cyflwyno nifer o raglenni garddio megis Byw yn yr Ardd a Tyfu Pobl, yn ogystal â chyfrannu’n rheolaidd at raglenni ar Radio Cymru, a maes cadwraeth yw prif ddiddordeb Jen.
Mis Ionawr yw man cychwyn y llyfr swmpus ac o’r tudalennau cyntaf mae’r lluniau lliw hyfryd sy’n cofnodi’r holl weithgaredd yn yr ardd a’r cartref yn ein hysbrydoli, yn ogystal â bod yn fodd hynod effeithiol o egluro camau pwysig. Drwy gydol y llyfr, ceir cyngor defnyddiol ac ymarferol gan Russell a Jen ar sut i fod yn gynaliadwy, sut i wneud y gorau o’r tir, cyfarwyddyd ar gylchdroi cnydau, a'r offer angenrheidiol, ynghyd â chyngor sut i ofalu am y cnydau wrth iddynt dyfu. Ar ddiwedd y llyfr ceir hefyd grynodeb defnyddiol o’r cynnyrch gwyllt y gellir ei hel, manylion am ffrwythau (coed a llwyni), a lle i wneud nodiadau ar gyfer pob mis.
Nid llysiau a ffrwythau yn unig a geir yn y llyfr. Os ydych wedi bod yn gwylio Russell yn cyflwyno ar y teledu, gwyddoch ei fod yn hoff iawn o ieir ac mae’r llyfr yn llawn manylion diddorol amdanynt, gan gynnwys sut i ddewis cywennod, sut i adeiladu cartref iddynt yn ogystal â sut i baratoi ieir ar gyfer eu dangos yn y sioe leol.
Mae O Egin i’r Gegin yn gofnod diddorol a lliwgar o’r modd y gallwn fod yn fwy cynaliadwy drwy ddatblygu gardd i’w llawn botensial a defnyddio'r cynnyrch yn ei dymor. Dyma lyfr defnyddiol dros ben sy’n grynodeb o wybodaeth i’r garddwr profiadol neu i’r rhai hynny, fel fi, sydd wedi ein hysbrydoli i roi tro arni!
Lowri Angharad Jones