- Nôl Atgofion drwy Ganeuon
- ISBN: 9781845276867
- Ryland Teifi
- Cyhoeddi Gorffennaf 2020
- Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 150 tudalen
Atgofion drwy ganeuon Ryland Teifi. Mae Ryland Teifi yn un o'n cyfansoddwyr a'n perfformwyr mwyaf talentog a phoblogaidd, gyda'i ganeuon yn cyfuno'r gwerinol/cyfoes Cymreig.
Gwybodaeth Bellach: Gan ei fod wedi priodi Gwyddeles o deulu o gerddorion cryf yn y traddodiad, a gan ei fod ef ai deulu bellach yn byw yn ne-ddwyrain yr ynys, mae dylanwad traddodiadau a datblygiadau cerddorol Iwerddon yn amlwg ar ei ganeuon hefyd.
Mae wedi cyfansoddi a chynhyrchu 4 albwm a 2 EP oi ganeuon yn Gymraeg a Saesneg, wedi ennill Cân i Gymru yn 2006 ac enwebiad am artist y flwyddyn yn 2007. Derbyniodd Last of the Old Men wobr Albwm y Mis yng nghylchgrawn cerddoriaeth Hotpresss a chyrhaeddodd Man Rhydd restr fer Albwm Gymraeg y Flwyddyn yn 2016.
Maen actor/cantor adnabyddus wedi ymddangos ar nifer fawr o gyfresi ar S4C fel Caerdydd, Fondu, Rhyw a Deinasors a Pen Talar ynghyd â chyfresi fel Emmerdale, Hinterland/Y Gwyll ac Un Bore Mercher/Keeping Faith ar sianeli ITV, y BBC a Netflix. Erbyn hyn, fe'i gwelir hefyd fel un o gyflwynwyr Dechrau Canu, Dechrau Canmol ar S4C.