Golwg Sydyn Bargen Loading... Rhwng Dau Glawdd £8.00 £0.00 - £-8.00 Rhwng Dau GlawddISBN: 9781845276041Tom JonesCyhoeddi Mai 2017Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 180 tudalenDyddiadur yr amaethwr Tom Jones, Plascoch, Dolanog, yn ystod y flwyddyn 2015, yn cynnwys sylwadau a hanesion difyr un sy\'n gwasanaethu ar nifer o gyrff cefn gwlad yng Nghymru ac Ewrop. 70 o ffotograffau lliw.Gwybodaeth Bellach:Rhwng cloddiau\'r gyfrol hon cawn fynediad i gefn gwlad Cymru heddiw. Wrth i\'r proflenni olaf ddod i\'w ddwylo, mae Tom Jones, Plascoch, Dolanog yn anterth y tymor wyna ac yng nghanol llu o gynlluniau eraill i sicrhau llewyrch a pharhad i gymdeithas wledig Maldwyn a Chymru.Yn y gyfrol hon hefyd cawn werthfawrogi\'r cyfoeth Ewropeaidd â ac nid cyfoeth materol yn unig ydi hwnnw. Wrth gael cip dros ysgwydd ar ddyddiadur blwyddyn yr awdur, gwelwn y gwahanol linynnau sydd wedi gweu drwy\'i gilydd yn ei fywyd â gwaith y fferm deuluol, ei ddyletswyddau fel aelod o\'r Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewropeaidd a\'i gefnogaeth i fyrdd o gymdeithasau a sefydliadau busnes, diwylliannol a lleol.Enillodd cnewyllyn y gwaith hwn goron Eisteddfod Powys a gynhaliwyd yng Nghroesoswallt yn 2016, a dyma drydedd gyfrol Tom Jones, yn dilyn cyhoeddi Brain yn y Brwyn (1976) a Dyddiadur Ffarmwr (1986).\'Cameos gwerthfawr o fywyd cefn gwlad a llygad treiddgar ar faterion rhyngwladol.\'â Aled Lewis Evans Default Title - £8.00 Nifer - + Ychwanegu i`r bag siopa View all details Rhwng Dau Glawdd £8.00