- Eira'r Haf
- ISBN: 9781845277857
- Wil Bing
- Cyhoeddi Medi 2020
- Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 180 tudalen
Nofel am giang o feicars Cymraeg sydd braidd yn amharchus, ac sy'n gwrthod dilyn llwybrau gwleidyddol gywir.
Gwybodaeth Bellach: Rai blynyddoedd yn ôl holodd un o gymeriadau Clwb Rygbi Pwllheli sut oedd mynd ati i sgwennu nofel. Wrth sgwrsio, roedd yn amlwg fod ei destun a'i gymeriadau yn ei ben yn barod stori am feicars Harley-Davidson Cymraeg yn cwffio, malu a lladd eu gelynion Hell's Angels o dros Glawdd Offa er mwyn cadw eu marchnad gyffuriau yng ngogledd Cymru. Fis yn ôl, cyrhaeddodd y nofel hon.
Cyflwynwyd hi i Bethan Gwanas a gofyn fyddai hi'n fodlon cyflwyno adroddiad. Mae'n un calonogol. Dyma neges ganddi
Nefi, mae hon yn mynd i bechu!
'Nofel feicars fudur a chwbl ddi-chwaeth fydd ddim ar restr ffefrynnau MYW. Nofel na welwyd ei thebyg yn Gymraeg or blaen. Fydd hon ddim yn plesior literati na phobl barchus, wleidyddol gywir, ond mi fydd beicars a rafins wedi gwirioni! Mae hin llawn cwffio gwaedlyd, rhegi go iawn, rhyw go graffig, delio mewn cyffuriau bob dim drwg, ond mae ynddi gariad at Gymru, ei golygfeydd ai chymeriadau, ac at farddoniaeth hefyd. O, ac mae na linellau wnaeth i mi sgrechian chwerthin...
Trawsfynydd! Tros ei feini fe glywir Harleys leni helyntion criw o feicars or gogledd yn trio cadwr busnes delio cocaine ir Cymry. Maen nhwn ddrwg, maen nhwn wariars, maen nhwn rafins go iawn. Dwi rioed wedi darllen nofel Gymraeg debyg iddi ac os dach chin sensitif neun barchus neun wleidyddol gywir, peidiwch âi chyffwrdd hi!
Os wyt ti isio darllen am feicars, cwffio, cyffuriau, cwrw ac ati, ac yn un am jôcs cwbl anghywir ir oes hon, hon ydir nofel i ti. Tarantino ar asid. A byddai, mi fyddain gwneud chwip o ffilm!'
Bethan Gwanas