This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

AmrywIAITH 2 - Blas ar Dafodieithoedd Cymru (Llafar Gwlad 2)

  • £7.50
  • £0.00
  • AmrywIAITH 2 - Blas ar Dafodieithoedd Cymru
  • Guto Rhys
  • ISBN: 9781845278526
  • Cyhoeddi: Mehefin 2022
  • Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 94 tudalen

Dyma gasgliad o eiriau tafodieithol, geiriau newydd a thrafodaeth fywiog o bob math am yr iaith Gymraeg. Y bobol eu hunain sydd yma'n siarad, yn llawn egni am eu hiaith nhw eu hunain - yr hyn sydd ar lafar yng Nghlwb Rygbi Llandysul, Y Bull yn Llangefni, ar y stryd yn y Tymbl neu mewn caffi yng Nghaerdydd. Ail gyfrol mewn cyfres ddifyr.

Bywgraffiad Awdur:

Mae Guto Rhys yn ieithydd ac yn hanesydd. Maen arbenigo mewn ieithoedd a thafodieithoedd Brythonig ac mae hefyd yn awdurdod ar y Prydyn (Pictiaid) au hiaith. Maen dad i ddau fachgen bywiog amlieithog, ac yn ei amser sbar mae wrth ei fodd yn dringo clogwyni neun cerdded i ben mynyddoedd serth.

Cyhoeddwyd ei gyfrol AmrywIAITH Blas ar dafodieithoedd Cymru yn 2020 (Llyfrau Llafar Gwlad 94).

Gwybodaeth Bellach:

Mae yma sylwadau at ddant pawb gyda phobol yn hel atgofion am bethau glywson nhw gan eu rhieni, a hefyd sut mae Cymraeg heddiw yn ymdopi â syniadau newydd. Maer awdur, neur casglwr efallai, wedi rhoi trefn ar y sgyrsiau hyn er mwyn rhoi inni ddarlun hwyliog o fwrlwm byw yr iaith. At hyn oll mae wedi ychwanegu pytiau yn egluro hanes y geiriau a sut y mae eu ffurf au hystyr wedi newid dros y canrifoedd. Maer cyfan wedii seilio ar drafodaethau hwyliog y gr?p Facebook Iaith sydd erbyn hyn brolio dros 14,00 o aelodau!