This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Cam i'r Deheubarth

  • £9.50
  • £0.00
  • Cam i'r Deheubarth
  • ISBN: 9781845276911
  • Rhys Mwyn
  • Cyhoeddi Mehefin 2019
  • Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm
Yn dilyn ei gyfrolau ar archaeoleg gogledd Cymru a'r gororau, mae Cam i'r Deheubarth yn archwilio a dadansoddi henebion a chofadeiliau'r de-orllewin. O olion cyntefig yn ogofau arfordir G?yr i greiriau abaty Ystrad Fflur, cawn ein tywys drwy hanes cyfoethog yr ardal yn arddull unigryw yr awdur.

Tabl Cynnwys: Cynnwys:
1. Ogofâu
2. Siambrau Claddu Dyffryn Nyfer
3. Côr y Cewri ar Preselau
4. Cylchoedd Cerrig a Meini Hirion
5. Bryngaerau
6. Y Rhufeiniaid
7. Cerrig Ogam
8. Cerrig Cristnogol Cynnar
9. Ar Drywydd yr Arglwydd Rhys
10. Y Cestyll Seisnig
11. Y Llinell Landsger
12. Abatai Ystrad Fflur a Thalyllychau
13. Archaeoleg Amgen
14. Archaeoleg Milwrol

Bywgraffiad Awdur:
Ar ôl dilyn cwrs gradd mewn archaeoleg, bu Rhys Mwyn yn ffigwr amlwg yn y byd pop Cymraeg am ddegawdau, fel aelod o gr?p Yr Anhrefn ac fel rheolwr a hyrwyddwr. Yn ddiweddar, dychwelodd ir byd archaeloegol ac erbyn hyn maen tiwtora ac yn arwain teithiau hanesyddol ledled Cymru. Mae ei golofn boblogaidd yn Yr Herald Cymraeg yn adlewyrchu ei ddiddordeb ysol yn y maes. Maen byw yng Nghaernarfon gydai wraig au dau fab. Cyhoeddwyd Cam ir Gorffennol yn 2014 a Cam Arall ir Gorffennol yn 2016.

Gwybodaeth Bellach:
Mae'r gyfrol hefyd yn mentro y tu hwnt i ffiniau Cymru - sut, er enghraifft, yr aeth cerrig gleision y Preselau yr holl ffordd i wastatedd Caersallog er mwyn adeiladu Côr y Cewri? Cyfrol ddifyr, hawdd ei darllen sy'n codi'r llen ar hanes cynharaf ein gwlad, ac yn mentro i dir archaeoleg fodern.