This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Adolygiad o Dyddie Da, Atgofion Drwy Ganeuon Delwyn Siôn

Adolygiad o Dyddie Da, Atgofion Drwy Ganeuon Delwyn Siôn

Dyma adolygiad o Dyddie Da, Atgofion Drwy Ganeuon Delwyn Siôn gan Geraint Løvgreen

Dyddie Da gan Delwyn Siôn ydi’r llyfr diweddaraf yng nghyfres Atgofion drwy Ganeuon Gwasg Carreg Gwalch, ac fel llawer o gyfrolau eraill y gyfres mae’n rhoi dadleniad difyr inni o’r hyn oedd ar feddwl y canwr/gyfansoddwr wrth sgrifennu ambell gân, a chyfle i fyfyrio ar ystyr y geiriau go iawn. Ac wrth wneud hynny cawn ein cyflwyno i hanes bywyd yr awdur, mewn fformat sydd dipyn yn fwy diddorol na hunangofiant arferol.

Mi fentrwn i ddweud bod Delwyn yn un o eicons y byd pop Cymraeg. Dwy ar bymtheg oed oeddwn i pan brynais gopi o EP cyntaf Hergest, Dewch i’r Llysoedd, a’i chwarae’n dwll am fisoedd. A dyna oed Delwyn hefyd, mae’n debyg, pan gyfansoddodd ei gyfraniad o at y record honno, sef ‘O’n Hamgylch’, ar gyfer cystadleuaeth cân bop yn Eisteddfod Ysgol Gyfun Rhydfelen. Yn nodweddiadol o ddiymhongar, mae’n nodi mai ail gafodd o ar y llwyfan!

Dewis gwych i agor y gyfrol ydi’r gân ‘Cwm Cynon’, a’i phortread cynnes o fro plentyndod Delwyn, cân sydd hefyd yn agor ail ochr y record hir a gafodd ei chydnabod yn glasur o’r cychwyn cyntaf, sef Ffrindiau Bore Oes Hergest. Dyma’n cyflwyniad ni i gefndir y canwr, cymoedd y De, a’i hynafiaid wedi mudo o Frycheiniog a’r gorllewin i ardal y glo. Cawn hanesion am aelodau’r teulu, fel ei gefnder Maxwell, oedd hefyd yn potsian efo’r canu pop ’ma, gan ofyn ei farn am ryw gân yr oedd newydd ei sgwennu. A dyma’r hanesyn yn y llyfr:

‘Beth ti’n feddwl o hon, Del?’ oedd y cwestiwn, ac yna fe ganodd y gytgan:

And we were singing Hymns and Arias,

Land of my Fathers,

Ar Hyd y Nos.

Ar ôl cwpwl o eiliadau o dawelwch fe ofynnodd eto ... ‘Wel? Any good?’

‘Ai, olreit!’ medde fi ... (wel, shwt o’n i fod i wybod?!!!).

Mae penodau ‘Niwl ar Fryniau Dyfed’ a ‘Dyddie Da’ yn mynd â ni ymlaen drwy gyfnod Coleg Prifysgol Aberystwyth a dyddiau Hergest, ac yn llawn atgofion melys i’r rheiny ohonon ni oedd yn ddigon ffodus i gydoesi efo Delwyn yn y Coleg ger y Lli. Dyddie da yn wir. Difyr ydi gweld ei sylwadau am hyn a’r llall, fel y gân ‘Blodeuwedd’ (ei chasáu hi erioed!) a’r cwympo mas efo Sain am safon wael y sain ar record hir Glanceri.

Ond cyfnod cymharol fyr (er mor bwysig) yng ngyrfa gerddorol Delwyn Siôn oedd dyddie da Hergest, a thrwy weddill y llyfr cawn ein cyflwyno i glasuron diweddarach fel ‘Un Seren’, ‘Un Byd’, ‘Tomi’ (o ddyddiau’r Glôb ym Mangor a’r band Omega), ‘Mwgyn a Mwffler...’, ‘Hedfan yn Uwch na Neb’ a mwy, gan ddilyn hynt y canwr a’i sylwadau diddorol – a dwys ar brydiau – ar fywyd. Ac wrth dyfu’n hŷn, yn anochel byddwn yn myfyrio am y ffrindiau annwyl sydd wedi’n gadael – Charlie Britton a John Griffiths, Wyn a Rich Ail Symudiad, ac eraill a enwir yn y llyfr. Mae’n gyfrol sy’n gwneud ichi fod isio tyrchu’r CDs o’r cwpwrdd neu chwilio am y stwff ar Spotify (pob lwc efo hynna!) a darllen y penodau i gyfeiliant y caneuon eu hunain, a gwerthfawrogi dawn y cerddor hynaws o Gwm Cynon o’r newydd. Cerddor sydd hefyd yn fardd, ffaith y mae’r llyfr hwn yn ei amlygu yn llawn.