Adolygiad Huw Prys Jones o Iaith Heb Ffiniau, gol. Sioned Erin Hughes
Ar adeg pan mae cymaint o gynefinoedd y Gymraeg o dan fygythiad cynyddol, ysbrydoledig yw darllen am ymrwymiad Cymry i ddyfodol eu hiaith a’u diwylliant ym mhedwar ban byd.
Mae Iaith heb Ffiniau yn rhoi darlun byw inni o fywydau 12 o deuluoedd sy’n magu eu plant yn Gymry mewn amrywiol leoliadau ledled y byd, gan gynnwys sawl gwlad yn Ewrop, Gogledd a De America, De Affrica, Asia, Awstralia a Seland Newydd.
Fel mae is-deitl y llyfr, ‘Magu’r Gymraeg Dramor’ yn ei awgrymu, mae pawb o’r teuluoedd yn byw dros y môr, gyda theulu o Ogledd Iwerddon felly yr unig un o Wledydd Prydain i gael eu cynnwys.
Mae’r holl wybodaeth wedi’i gasglu ynghyd gan olygydd y gyfrol, Sioned Erin Hughes, gyda phob pennod ar ffurf cwestiwn ac ateb, a’r holl atebion gan y rhieni yn eu geiriau eu hunain. Syniad da oedd amrywio’r cwestiynau rhwng y gwahanol benodau, fel eu bod yn rhan o sgwrs go-iawn, yn hytrach na gofyn union yr un peth i bawb.
Mae’r golygydd hefyd wedi osgoi cyfyngu’r cwestiynau i faterion sy’n ymwneud ag iaith yn unig, gan alluogi’r darllenydd i fwynhau cipolwg o fywyd y gwahanol wledydd trwy lygaid y Cymry sy’n byw ynddynt.
Mae’r teuluoedd yn amrywio’n helaeth o ran eu cefndir Cymraeg. Yn y rhan fwyaf ohonynt, un rhiant yn unig sy’n siarad Cymraeg, neu sydd o gefndir Cymreig, er bod rhai teuluoedd dau riant Cymraeg, ac un tad sengl – sy’n wreiddiol o fferm yn Eryri – yn magu plentyn chwe blwydd oed yn Seland Newydd.
Newyddiadurwr ar S4C oedd Siôn Pennar tan yn ddiweddar ond mae bellach yn byw yn Poznan yng Ngwlad Pwyl, cartref ei wraig, Gosia. Mae eu merch bum mlwydd oed Ola Gwenllian yn dairieithog mewn Cymraeg, Pwyleg a Saesneg. Ac yntau wedi cael magwraeth gwbl Gymraeg yn Eifionydd dywed nad oedd cwestiwn ynghylch yr iaith y byddai’n siarad gyda’i ferch.
Daw Esyllt Nest Roberts hefyd o gefndir trwyadl Gymraeg yn Eifionydd, a Chymraeg yw iaith ei theulu yn y Gaiman yn Patagonia. Mae ei gŵr Cristian yn hanu o deulu Cymreig yn y Wladfa, ac er mai ail iaith yw’r Gymraeg iddo, dyma’r iaith mae wedi ei siarad o’r cychwyn gyda Mabon ac Idris, eu meibion sydd bellach yn 17 a 15 oed.
Ar y llaw arall, fel un o Gasnewydd yn wreiddiol, wnaeth Andrew Dixey ddim dysgu Cymraeg nes oedd yn oedolyn. Ac yntau bellach yn byw yn Slofacia, Cymraeg mae’n siarad bob amser gyda’i fab Matko.
Yn yr Alban y ganed Elinor Young, yn ferch i Albanwr a Chymraes, a dysgodd Gymraeg yn blentyn ar ôl i’r teulu symud i Gymru. Yn feddyg o ran galwedigaeth, mae hi bellach yn byw yn Capetown yn Ne Affrica, lle mae’n magu ei merch fach Isla Gwawr, gan gan ddilyn ôl troed ei rhieni wrth gynnal y Gymraeg ar aelwyd gymysg ei hiaith.
Mae’r llyfr hwn, yn ogystal â bod yn ddifyr i’w ddarllen, yn haeddu sylw arbennig gan unrhyw rai sy’n ymwneud â hyrwyddo’r iaith yng Nghymru. Gyda phwyslais cynyddol ar drosglwyddo’r Gymraeg yn y cartref fel ffactor allweddol wrth gaffael iaith, mae pob un o’r teuluoedd hyn yn cynnig astudiaethau achos gwerthfawr i bawb sy’n gweithio yn y maes.
Un o gryfderau mawr y llyfr yw ei onestrwydd. Does ynddo ddim rhamantu na hunan-dwyll ei bod yn hawdd magu plant i siarad Cymraeg, ac mae amryw o rieni, yn enwedig rhieni’r plant lleiaf, yn mynegi pryder am y graddau y byddant yn dal gafael ar yr iaith a’i defnyddio wrth iddynt fynd yn hŷn.
Er bod technoleg yn cynnig cyfleoedd i ymestyn ffiniau’r Gymraeg ymhellach nag erioed o’r blaen, un thema gyson gan lawer o’r teuluoedd ydi nad oes digon o ddarpariaeth S4C ar gael dramor. Dyma fater sydd angen mynd i’r afael ag ef ar fyrder.
I gloi, mae’r gyfrol hon yn gwneud cyfraniad pwysig at ddatblygu gwell dealltwriaeth yn ein mysg at ein cyd-Gymry sy’n byw dramor. Dros y blynyddoedd, rydym wedi symud ymlaen yn sylweddol oddi wrth y ddelwedd sentimental a oedd yn cael ei chreu gan hen seremoni’r Cymry ar Wasgar yn yr Eisteddfod. Gwaeth hyd yn oed na’r ddelwedd honno, fodd bynnag, oedd canlyniadau’r adwaith negyddol iddi – sef rhyw fath o feddylfryd ymysg rhai nad oedd unrhyw Gymreictod y tu allan i ffiniau Cymru’n dda i ddim.
Mae’r gyfrol hon yn llwyr wrthbrofi unrhyw feddylfryd o’r fath ac yn ein hatgoffa bod y diaspora Cymraeg yn fyw ac yn iach ar bum cyfandir. A’i fod yn haeddu pob cefnogaeth a chydnabyddiaeth o’r cyfraniad gwerthfawr sydd ganddo i’w wneud i ddyfodol ein cenedl.