Dyma adolygiad o Galwad yr Alarch gan Gill Lewis, (addasiad gan Elen Williams) gan Gethin Morgan, athro Cymraeg uwchradd yn Ysgol Glan Clwyd.
Mae Galwad yr Alarch yn nofel annwyl sy’n ein harwain trwy fywyd Dylan, bachgen ym mlwyddyn 8 sydd wedi colli ei ffordd yn yr ysgol ac sydd wedi’i wahardd yn barhaol. Daw i’r amlwg fod Dylan wedi wynebu heriau yn ei fywyd a heb dderbyn cefnogaeth i’w gynorthwyo. Trwy’r stori, rydym yn dilyn ei daith wrth iddo drawsnewid a chael ei aileni fel person gwahanol gyda chymorth ei daid, dyn a gollodd ei wraig flynyddoedd yn ôl. Mae byd natur a chymuned agos sy’n cwmpasu pob cenhedlaeth yn hanfodol wrth iddo ganfod ei hun, gan ei helpu i ddod o hyd i ffordd fwy cadarnhaol o fyw.
Mae’r nofel yn addas iawn ar gyfer disgyblion Blwyddyn 6 i 8. Dyma nofel sydd yn cyffwrdd â themâu sy’n apelio at y grŵp oedran hwn ac sy’n helpu plant i ddeall bywyd mewn ffordd syml, ddiddorol ac emosiynol. Bydd unrhyw un sydd â diddordeb mewn pobol, byd natur neu berthnasau rhwng cenedlaethau yn sicr o’i mwynhau.
Mae Gill Lewis ac Elen Williams wedi creu gwaith sy’n uniongyrchol ac yn bwrpasol, gyda phytiau rhamantaidd o gefn gwlad Cymreig. Ar brydiau, mae’r iaith yn greadigol iawn, gan gynnig cyfle i blant werthfawrogi technegau iaith amrywiol. Mae’r deialog yn glir ac yn rhoi dealltwriaeth ddyfnach i ni o’r cymeriadau, gan ein helpu i ddod i’w hadnabod yn well. Mae’r ysgrifennu am natur yn caniatáu i’r darllenydd deimlo cysylltiad â byd y stori, gan gynnig ffordd unigryw i blant weld eu cymuned a’r byd o’u cwmpas. Ar lefel emosiynol, gellir trafod moesau bywyd a datblygiad plant mewn ffordd sy’n addas i’r oedran.
Mae nifer o themâu trawiadol gyda phob un yn cydblethu i greu neges bositif o bŵer cymuned ac undod. Mae'r modd y mae Dylan yn cael ei siapio gan y cysylltiad hwn â'i gymuned yn portreadu pa mor bwysig yw hi i unigolion ifanc gael cefnogaeth o'u cwmpas. Yn ogystal, wrth i’r stori fynd yn fwy gwleidyddol, mae’r darllenwyr yn gallu gweld angerdd Dylan yn codi a’i ymrwymiad i frwydro dros yr hyn sy’n bwysig iddo ef.
Mae’r cymeriadau yn hoffus, gan gynnwys Dylan a’i daid, sy’n rhoi darlun cyfoethog o garedigrwydd, gwytnwch ac ewyllys da. Ar y llaw arall, mae un cymeriad drwg, tebyg i gymeriad mewn pantomeim, sy’n ychwanegu ychydig o ddrama i’r stori. Mae’r cydbwysedd hwn yn galluogi’r darllenwyr i gysylltu â’r cymeriadau cadarnhaol ac i weld pa mor bwysig yw hi i ddeall ac ymddiried mewn pobl eraill.
Ces i fwynhâd mawr wrth ddarllen Galwad yr Alarch. Mae yna deimlad hiraethus i’r stori sy’n amlygu sut nad yw’r un ffordd o addysg yn addas i bawb. Mae’n adrodd hanes cariad, gan drafod themâu sy’n deimladwy a pherthnasol. Mae hefyd yn tynnu sylw at yr angen i fabwysiadu agwedd sy’n cwmpasu amrywiaeth a chefnogaeth i unigolion o bob cefndir.
O safbwynt athro, mae strwythur y llyfr yn addas ar gyfer y dosbarth gan fod y penodau’n fyr a gellir eu darllen o fewn 10 munud. Mae Gwasg Carreg Gwalch yn cynnig tasgau sy’n cyd-fynd â phob pennod ac ar gael ar-lein. Mae’r tasgau’n cynnwys gweithgareddau sy’n astudio natur ac yn canolbwyntio ar iaith, gan ddefnyddio strategaethau dysgu amrywiol. Byddai’n hawdd astudio dwy bennod a chwblhau’r tasgau mewn gwers. Bydd yr adnoddau hyn yn gwneud y llyfr hyd yn oed yn fwy gwerthfawr i athrawon wrth annog trafodaeth ac ymgysylltiad gyda’r testun.
Yn gyffredinol, mae Galwad yr Alarch yn nofel syml, effeithiol ac yn un a fydd yn sicr yn taro tant gyda darllenwyr ifanc. Mae’n cynnwys negeseuon pwysig ac yn ein hatgoffa am y pŵer sydd mewn perthynas, cymuned a’r cysylltiad â’r byd o’n cwmpas.