This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Cyhoedi atgofion Haf!

Cyhoedi atgofion Haf!

Mae Haf Thomas o Lanrug yn dipyn o gymeriad! Mae wedi llefaru ar lwyfan yr Urdd, mae wedi bod yn ecstra ar Pobol y Cwm, mae wedi switsio goleuadau’r Nadolig ymlaen yng Nghaernarfon – ac mae wedi codi trigain mil o bunnoedd i elusennau gwahanol. Hyn i gyd gan ferch sy’n gwrthod gadael i anawsterau bywyd ei threchu.

A neithiwr, mewn ‘noson codi calon’ go iawn ym Mhenisarwaun fe gyhoeddwyd ei chyfrol o atgofion O na fyddai'n Haf o hyd!

Pan anwyd Haf yn 1971 roedd yn dipyn o sioc i’w rhieni Ann ac Irfon pan ddeallon nhw fod syndrôm Downs arni. Ers hynny, yr unig sioc a fu, yw ei dawn barhaus i dynnu’r gorau o’r bobol o’i chwmpas. Mae ei theulu a’i chymuned wedi bod yn gefn iddi – ond mae hithau yn ei thro wedi gwneud mwy na’r rhan fwyaf ohonom i dalu’r gymwynas yn ôl. Mae wedi nofio i godi pres i Ysgol Pendalar, hel stampiau at Gymdeithas y Deillion, gwerthu cardiau cyfarch mae’n eu gwneud ei hun, a threfnu cyngherddau Nadolig hefo’i chydweithwyr yng Nghyngor Gwynedd. Mae wedi codi pres i dros dri deg o wahanol elusennau.

Yn y gyfrol hon, mae Haf a’i chyd-awdur Ifor ap Glyn yn adrodd y stori – ac mae’n stori gwerth ei rhannu.

Diolch i’r llond neuadd a ddaeth i Ysgol Gymuned Penisarwaun neithiwr (2 Rhagfyr) i ddathlu cyhoeddi’r gyfrol, ac yn enwedig i gôr O Law i Law am y canu. Bydd lansiad arall yn cael ei gynnal yn Palas Print Caernarfon ddydd Sadwrn (7 Rhagfyr) am 4.