This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

‘Anrheg am Oes’  – Ymgyrch i ddathlu cyhoeddi yng Nghymru

‘Anrheg am Oes’ – Ymgyrch i ddathlu cyhoeddi yng Nghymru

Yn dilyn y newyddion am doriadau i'r byd cyhoeddi yng Nghymru, ac ar ôl gweld sawl stori negyddol am y diwydiant, mae Gwasg Carreg Gwalch wedi penderfynu fod angen ymgyrch fwy positif am lyfrau cyn y Nadolig.

Y bwriad yw annog pawb i rannu llun ar y cyfryngau cymdeithasol o’r llyfr o’u plentyndod gafodd argraff arnynt er mwyn atgoffa pawb peth mor werthfawr yw darllen i blant ac er mwyn dathlu’r ganrif ddiwethaf o lyfrau plant sydd wedi eu cyhoeddi yng Nghymru.

‘Cofio wnes i am erthygl yn Y Ffynnon y llynedd gan Dyfed Evans (sydd yn 99 erbyn hyn) oedd yn hel atgofion am yr anrheg Nadolig gorau iddo ei gael sef 'Llyfr Mawr y Plant'.’ Meddai Elen Williams, golygydd llyfrau plant a phobl ifanc y wasg. ‘A dyma feddwl wedyn cymaint o ddylanwad mae llyfrau a darllen yn medru ei gael ar blant ac fod angen i ni atgoffa pawb o hynny, ac o’r wledd o lyfrau sydd gennym ni yma yng Nghymru. Mae hi’n amser cythryblus iawn i’r byd cyhoeddi ond efallai y gallai ymgyrch fel hyn ein atgoffa ni mor werthfawr yw’r diwydiant, ac annog pobl i roi llyfr yn yr hosan Nadolig yn hytrach nac ipad!'

Y bwriad yw defnyddio’r #anrhegamoes er mwyn atgoffa pobl peth mor bellgyrhaeddol yw rhoi cariad at ddarllen i blant bach, ac i atgoffa’r to hŷn mai’r llyfrau plant yma gychwynodd eu taith creadigol a llenyddol nhw. O afael yn y llyfrau cyntaf rheini'n fabanod y daeth ein llythrennedd ni - ac mae angen i blant heddiw ac yfory gael yr un cyfle! 

Felly gan gychwyn yr ymgyrch yn edrych yn ôl bron i gan mlynedd gyda stori Dyfed, mi hoffai’r wasg weld pawb yn rhannu llyfr o'u plentyndod gafodd effaith neu ddylanwad neu roddodd fwynhad arbennig iddynt! Y syniad ydi clodfori'r holl lyfrau Cymraeg sydd wedi eu cyhoeddi dros y degawdau diwethaf ac #dathlucyhoeddicymru y Nadolig hwn.

Bydd y wasg yn lansio'r ymgyrch Ddydd Gwener, Tachwedd 22 ac yn gofyn i bawb ymateb os medrwch chi! Bydd cyfarwyddiadau ar sut i rannu - cewch rannu llun o glawr y llyfr neu hun-lun efo'r llyfr ac os oes ganddoch chi stori am y llyfr cynta' hwnnw - 'da chi rhannwch hi!

Gyda'n gilydd mi geisiwn ni gael llond sach o lyfrau dan goed Nadolig y Cymry eleni!