Dyma adolygiad Eirlys Wyn Jones o Gwaddol gan Rhian Cadwaladr
Stori sydd yma am hynt a helynt tair cenhedlaeth o’r un teulu, sef Myfi, ei phlant Delyth a Robin, a’u plant hwythau Anna, Osian ac Ioan.
Oddi mewn i’r nofel fach yma llwydda’r awdur i gyfleu cymaint o emosiynau: euogrwydd, galar, bryntni, hiraeth, cenfigen, edifeirwch a rhamant. Mae trais yn y cartref ar un law a chariad addfwyn ar y llaw arall – mae’n gallu trafod yr emosiynau hyn yn ddwfn a sensitif gan wneud i rywun gysidro y byddwn i gyd yn ystod ein bywydau yn gorfod uniaethu â rhai ohonynt. Ond ar yr ochr ysgafnach mae hiwmor Rhian yn dod i’r golwg hefyd, yn enwedig wrth iddi ddisgrifio perthynas Myfi a Meera, ei chymdoges sy’n dysgu Cymraeg, ac yn dod o gefndir hollol wahanol i Myfi.
Hoffais, yn fuan yn y llyfr, sut y mae yn cyfeirio yn gynnil at faich ambell gyfrinach mae rhai o’r cymeriadau yn gorfod eu cario, ond cyn datgelu’r cyfan yn rhy fuan mae’n ochrgamu’n glyfar ac yn newid y stori. A thrwy wneud hynny, coda ysfa ynof i ddarllen ymlaen i gael gwybod mwy amdanynt.
Cyfyngir y stori rhwng waliau cartrefi’r teuluoedd a’r gweithle, ac ychydig sy’n digwydd yn yr awyr agored, ond efallai fod hyn yn gwneud i mi ganolbwyntio ar natur y stori yn unig, sy’n hollol gredadwy ac yn llithro yn llyfn o un digwyddiad i’r llall. Fel y cyfeirir at ambell nofel Saesneg o’r un natur mae hon yn Aga Saga go iawn. Ond mae mwy iddi na nofel ysgafn a fyddai’n ddelfrydol i’w darllen ar draeth poeth. Ar brydiau mae hon yn gallu bod yn ddirdynnol, a gwnaeth i mi oedi’n hir uwchben rhannau ohoni.
Mae gan Rhian ddawn ryfeddol i bortreadu cymeriadau ac roedd yn anodd gollwng gafael ar rai ohonynt erbyn diwedd y nofel.
Mae cynllun cynnes y clawr gan Eleri Owen yn fy atgoffa o drobwyll bywyd a’r drwg a’r da y mae’n adael ar ei ôl.
Llongyfarchiadau i Rhian a diolch am chwip o nofel wnaeth ddal fy sylw o’r dechrau i’r diwedd.
Cyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch a’r pris yw £8.99.