Pan oedd Rhian yn un ar ddeg oed, nododd mewn tasg gwaith cartref ei bwriad i ysgrifennu saith o nofelau. Mae hi eisoes wedi cyhoeddi pedair, a Gwaddol yw ei phumed.
Hanes pythefnos dyngedfennol ym mywyd tair cenhedlaeth o un teulu ydi Gwaddol, ac mae’n taflu golwg ar berthynas mam a merch, galar a chariad.
Mae Myfi yn dathlu ei phen blwydd yn 80. Er ei bod wedi byw bywyd llawn a gweithgar mae hi’n dechrau teimlo’i hoed, ac mae’r rhan fwyaf o’i chyfeillion bore oes wedi marw. Sut all hi i ddod i delerau â hen gyfrinach sydd wedi bod yn gysgod drosti ers dros hanner canrif?
Delyth yw merch Myfi, sy’n dal i alaru yn dilyn marwolaeth sydyn ei gŵr ddwy flynedd ynghynt. Yn ogystal â cheisio talu’r dyledion adawodd Medwyn ar ei ôl, mae hi’n teimlo fel y llenwad yn y frechdan wrth geisio edrych ar ôl ei mam a’i merch ugain oed, Anna, sy’n mynnu tynnu’n groes i’w mam. Brawd Delyth ydi Robin, a fo ydi ffefryn amlwg Myfi. Mae’n ceisio trefnu parti pen-blwydd syrpréis i’w fam, ond mae’n ei chael yn anodd cadw’i wraig, Julie, a’i chwaer yn hapus.
Mae Gwaddol yn edrych ar y gwead cymhleth sy’n dal teulu ynghyd – y cystadlu a’r cenfigen, y dyletswydd a’r cariad – a sut mae hyn yn gallu newid wrth i’r to hŷn heneiddio a’r ieuenctid droi yn oedolion.
Yn ôl Rhian Cadwaladr:
“Er bod y nofel yn delio â themâu difrifol mae yma gryn dipyn o hiwmor hefyd. Rydw i wedi trïo plethu’r llon a’r lleddf a chreu darlun o fywyd go iawn sydd, gobeithio, yn gredadwy. Yn sicr mae’r cymeriadau yn fyw yn fy meddwl i. Dwi wedi mwynhau eu creu nhw – nid yn unig y prif gymeriadau ond y cymeriadau ymylol, y cameos bach lliwgar fel Tez Tatŵs a Beti Coesa Cowboi.”
Er mai hon yw ei phumed nofel, tydi disgwyl am yr ymateb cyntaf i’r llyfr ddim yn mynd yn haws, yn ôl Rhian:
“Mae cyflwyno’r cymeriadau i’r darllenwyr yn deimlad od a phryderus – os rywbeth mae’n mynd yn waeth efo pob nofel gan ’mod i ofn eu siomi, ac er bod hyn yn mynd i swnio’n hollol boncyrs, dwi ofn gadael fy nghymeriadau i lawr!”