This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Adolygiad o Merch y Wendon Hallt

Adolygiad o Merch y Wendon Hallt

Adolygiad Guto Dafydd o Merch y Wendon Hallt gan Non Mererid Jones.

Dyma nofel menyw ifanc yn ei chymuned, un sy’n destament o obaith penderfynol er nad yw’n meiddio cyfaddawdu yn modd y mae’n llunio realiti. Mae llais prif gymeriad y nofel – llais prin, treiddgar na ellir ond ffoli ar ei hyfdra bregus – yn taflu sen ar y sâl a’r sentimental, gan gydnabod ei gwendidau a’i chyfyngiadau ei hun a’i chynefin. Mae’n derbyn na all gwrdd â gofynion pob delfryd. A thrwy hynny mae’n gwerthfawrogi bywyd mewn modd dyrchafol.

Deunydd y nofel yw darnau yng nghystadleuaeth stori fer Eisteddfod Genedlaethol 2023, am yn ail â nodiadau personol Myfi’r beirniad – menyw ifanc o Lŷn, a chanddi PhD a mab – wrth iddi fynd drwy’r cynnyrch. Dyma ddyfais glyfar: mae’n caniatáu cynnwys myfyrdodau cyffesol Myfi (sydd rai ohonynt yn seiliedig ar fywyd yr awdur, ac eraill yn ddychmygol), ond hefyd yn gerbyd i ddychan cyrhaeddgar yr awdur. Drwy greu ffuglen ffuglennol – gweithiau eisteddfodol ffug – dengys yn ddidrugaredd mor arwynebol-ddynwaredol yw cymaint o’n disgwrs diwylliannol. Mae nodiadau Myfi yn wrthbwynt herfeiddiol i’r cyffredinedd hwnnw.

Dilynir tri degawd o ddatblygiad ym mywyd merch: ansicrwydd yr arddegau, meddwi penchwiban a charu diystyr yr ugeiniau, a bendith gaethiwus mamolaeth y tridegau. Drwy bob cyfnod yn ei bywyd myn y cymeriad lywio cwrs union rhwng dau fygythiad o gondemniad moesol: rhwng rhai a fyddai’n ei barnu am hawlio’i rhyddid i wneud fel y myn, a’r rhai fyddai’n ei barnu am dderbyn diogelwch boring y batriarchiaeth.

Wrth madael i’r coleg aiff y rhyddid i ddewis gwisgo unrhyw hunaniaeth â bryd Myfi. Yn ddiweddarach, mewn cyfnod digyfeiriad, “iwsio’n gilydd” y mae hi a’i chariad anwadal – defod i fynd drwyddi yw’r berthynas, nid ymrwymiad trawsnewidiol. Hyd yn oed wrth ymroi’n llwyr i fagu ei mab a dotio arno (“setlo” fel y’i geilw’n gilwgus) mae Myfi’n gwrthod derbyn y syniad fod ei hunaniaeth wedi ei newid o ferch i fam – hi ei hun yw hi o hyd, wedi ei chyfoethogi gan brofiad a pherthynas newydd, ond yn sylfaenol yr un person.

Cyflwynir hefyd fywyd cyffredin tre fach yn Llŷn. Nid yw’n baradwys nac yn burdan chwaith. Mae weithiau’n farwaidd, ond wastad yn ffynhonnell o berthyn bywiol i Myfi. Mae iddi ei chorneli llwydion tamp, ond mae iddi hefyd dwyni euraid a thonnau gwarchodol yn galw. Dyw prisiau tai na phresenoldeb twristiaid a mewnfudwyr byth yn bell o ymwybyddiaeth Myfi, ac ni wedir mor agored yw Llŷn i’w difrodi ar drugaredd arian, ond dyw’r argyfwng ddim yn ei llethu na’i mygu. Trech na’r rhwystredigeth am anhawster ymsefydlu yn y fro yw’r awydd i wneud hynny beth bynnag yw’r cyfaddawdau. Trech na’r pryder am y dyfodol yw’r penderfyniad i fyw a magu’n dda yma heddiw.

Dyma nofel sy’n ddigyfaddawd o driw i bethau fel y maent, a nofel sy’n cofleidio’r cyffredin gan wfftio cyffredinedd. Mae’n gwrthod gosod prawf moesol ar brofiadau bywyd cymuned na menyw. Yr un peth a gondemnir – yn gynnil ond yn boenus o ddigamsyniol – yw camymddwyn gwrywaidd, mewn cynadleddau academaidd fel ar Stryd Fawr Pwllheli, a cweit reit hefyd.

Mae’n gwrthod dilyn ystrydebau’n ddigwestiwn wrth ddehongli’r byd, ond yn barod i ganfod gwirioneddau yn yr ystrydebau hefyd. Dyw profiadau amwys menywod ifanc, na sefyllfa fregus cymunedau Llŷn – na simpilrwydd treuliedig llenyddiaeth Gymraeg o ran hynny – ddim yn themâu newydd. Ond mae Merch y Wendon Hallt yn rhoi blas ysbrydoledig o ffresh arnyn nhw, dos iach o ganiatâd i gymryd y byd fel y bo.  

Ac er mor ddyfeisgar yw ei ffurf, ac mor feiddgar-feddylgar yw ei negeseuon, dyma nofel sy’n rhwydd mynd drwyddi – un sy â cherrynt cry i’ch tynnu drwyddi. Mae’r testun tyn, ffraeth yn gwneud y darllen yn hawdd, a huodledd sinigaidd-annwyl y traethydd yn gwneud y darllen yn rheidrwydd. Os gall Llŷn a’n llên gynhyrchu gwaith fel hyn, mae gobaith eto.