Mae Non Mererid Jones, yr awdur newydd o Bwllheli wedi troi at brofiadau personol yn ei chyfrol gyntaf o ffuglen – gwaith a gafodd ganmoliaeth uchel gan feirniaid y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd y llynedd.
Yn ôl Ion Thomas, mae Merch y Wendon Hallt yn ‘waith sy’n pefrio.’ Aeth yn ei flaen i ddweud fod ‘strwythur y nofel hon yn drawiadol a chlyfar a’i chynnwys yn hollol Gymreig ac eisteddfodol!’ Roedd sylwadau ei gyd-feirniad Lleucu Roberts yr un mor ganmoliaethus wrth iddi ddisgrifio’r nofel fel un ‘wreiddiol a gonest, doniol a deifiol.’
‘Efallai ’mod i’n siarad rwtsh,’ eglura Non Mererid Jones, ‘ond dwi’n meddwl mai deunydd crai nifer o egin awduron ydi eu profiadau personol. Ac wrth reswm felly, dwi’n tynnu ar brofiadau a phethau sy’n gyfarwydd i mi, er enghraifft fy magwraeth yn Llŷn, y profiad o fod yn fam ac ati. Mi ges i lawer o hwyl wrth sgwennu, ond ffuglen ydi Merch y Wendon Hallt ar ddiwedd y dydd, nid hunangofiant. A beth bynnag, ydi pobol yn deud y gwir, yr holl wir, mewn hunangofiannau?’
Daw Non Mererid Jones o Bwllheli, Llŷn. Astudiodd y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd ac enillodd ddoethuriaeth yn yr un pwnc o Brifysgol Bangor yn 2020. Bu’n gweithio fel Tiwtor Cymraeg i Oedolion am flynyddoedd ac mae hi erbyn heddiw yn Ddarlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Enillodd y Goron yn Eisteddfod Ryng-golegol Bangor 2017 a daeth i’r brig yng nghystadleuaeth y stori fer yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017. Daeth yn agos i’r brig yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 gyda’r nofel hon. Rhwng gweithio a magu mae hi’n mwynhau rhedeg a nofio, ond yr hyn sy’n rhoi’r boddhad mwyaf iddi yw hel caffis gyda’i mab, Lleu. Merch y Wendon Hallt yw ei chyfrol gyntaf.
Mae’r nofel yn llais Myfi, beirniad ar gystadleuaeth y Stori Fer yn yr Eisteddfod sy’n defnyddio’r llyfr nodiadau mae hi wedi’i brynu i gofnodi ei sylwadau ar waith y cystadleuwyr i gofnodi ei phrofiadau ei hun – profiadau y mae gwaith y cystadleuwyr yn ei hatgoffa ohonynt. Mae Myfi hefyd yn ceisio gwneud synnwyr o ddod yn fam am y tro cyntaf, fel yr eglura Non: ‘Yn gryno, mi faswn i’n disgrifio Merch y Wendon Hallt fel myfyrdodau merch gymharol ifanc sydd rhwng dwy hunaniaeth – y ferch yn ei hugeiniau, a’r fam newydd yn ei thridegau cynnar. Mewn geiriau eraill: yr un hen stori! Yn gam neu’n gymwys,’ eglura Non, ‘do’n i ddim yn trio apelio at unrhyw gynulleidfa benodol. Ychydig o gatharsis a lot fawr o hwyl oedd sgwennu hwn i mi ar y pryd – rwbath i’w wneud, i gadw ’mhwyll, a rwbath a oedd yn rhoi llawer mwy o bleser i mi na sgrolio’n ddiamcan ar fy ffôn a chymharu fy hun â mamau eraill oedd yn ymddangos fel petaen nhw’n ymdopi’n well â heriau mamolaeth na fi.’
Ysgrif gan Angharad Price wnaeth ei hysgogi i ddechrau sgwennu yn y lle cyntaf. ‘Pan o’n i’n disgwyl fy mab mi o’n i’n teimlo’n uffernol o gyfoglyd, yn ddigalon ac yn hunandosturiol, ac roedd pobol dweud wrtha i am ‘fwynhau bob eiliad’. Ar ben hynny mi o’n i’n poeni (yn afresymol, wrth sbio’n ôl) bod beichiogrwydd a mamolaeth am fy nifodi. Mi o’n i’n methu’n glir â sgwennu dim bryd hynny. Ond mi wnaeth geiriau Angharad Price, a’r syniad o “ymbapuroli” aros efo fi drwy’r beichiogrwydd ac wedi’r geni, yn gysur i mi ac yn codi ’nghalon i. Ac felly dyma fi’n mynd ati i roi rwbath ar bapur ar yr adegau hynny pan oedd y mab yn cysgu – mewn caffis rownd Pwllheli neu ganol nos.’
Mae Merch y Wendon Hallt ar werth rŵan ym mhob siop lyfrau Cymraeg, drwy www.carreg-gwalch.cymru ac ar www.gwales.com. Cynhelir lansiad ar Nos Fercher, 13eg Tachwedd am 7.00yh yn Llyfrgell Pwllheli (Neuadd Dwyfor), yng nghwmni’r Prifardd Guto Dafydd.
This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.