Mae cyfrol wedi'i golygu gan Siân Sutton yn cofio ‘Cyfnod allweddol yn hanes darlledu yng Nghymru.'
Roedd Medi 30, 1974 yn ddiwrnod hanesyddol i Gymru wrth i orsaf radio newydd sbon gael ei chreu i wasanaethu ardal Abertawe a de orllewin Cymru.
Sain Abertawe oedd yr orsaf radio annibynnol gyntaf i gael ei sefydlu yng Nghymru a’r seithfed drwy Brydain. Ac roedd y Gymraeg i gael lle amlwg ar y rhaglenni ar y gwasanaeth dwyieithog cyntaf erioed ym myd radio lleol.
Mewn llyfr newydd mae pennaeth rhaglenni Cymraeg Sain Abertawe, Wyn Thomas, yn trafod yr her o greu rhaglenni a fyddai’n apelio at wrandawyr dalgylch mawr o Ben-y-bont ar Ogwr yn y dwyrain i Sir Benfro. Roedd yr Awdurdod Darlledu Annibynnol yn mynnu bod 13% o’r holl raglenni yn Gymraeg gyda bwletinau newyddion yn ystod y dydd a’r rhaglenni, Amrywiaeth, yn cael eu darlledu bob nos rhwng 6.30 a 9.00.
Roedd yr orsaf yn llwyddiant o’r dyddiau cyntaf gyda miloedd o bobol yn gwrando ac yn cyfrannu at y rhaglenni amrywiol. Cafodd nifer o newyddiadurwyr a darlledwyr adnabyddus y Gymraeg eu cyfle cyntaf gyda’r orsaf gan gynnwys Glynog Davies, Richard Rees, Aled Glynne Davies a’i gyfres Mynd am Sbin gydag Aled Glynne, Siân Thomas o Ystalyfera. Roedd yr orsaf yn torri tir newydd adeg Eisteddfod Genedlaethol yn Nyffryn Lliw yn 1980 drwy ddarlledu yn y Gymraeg dros nos gyda Siân Lloyd a Lyn Morgan yn cyflwyno cyffro’r byd pop Cymraeg o hanner nos tan bump y bore.
Cyn ymuno â’r BBC bu Garry Owen yn arwain yr adran Gymraeg gyda Gareth Wyn Jones yn llais cyfarwydd am dros 40 mlynedd ac ymhlith y darlledwyr mwyaf cofiadwy oedd Willie Bowen a’i rhaglen Difyr Donc bob nos Sul.
Erbyn hyn mae Sain Abertawe wedi dod i ben fel gwasanaeth radio ond yr atgofion yn fyw o hyd a llyfr sy’n adrodd peth o’r hanes ar fin cael ei gyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch.
Mae Chwyldro ym Myd Darlledu - Radio Abertawe 257 wedi’i olygu gan Siân Sutton yn cael ei gyhoeddi i gyd-fynd â’r pen-blwydd arbennig ac yn rhoi darn o hanes darlledu a’r Gymraeg yn lleol ac yn genedlaethol ar gof a chadw.
Mae Chwyldro ym Myd Darlledu ar werth mewn siopau llyfrau ledled Cymru, ar y we drwy wefan y wasg, www.carreg.gwalch.cymru a gwefan y Cyngor Llyfrau, www.gwales.com