This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Nadolig y Gath yn Sain Ffagan

  • £12.95
  • £0.00
  • Nadolig y Gath yn Sain Ffagan
  • ISBN: 9781845279257
  • Myrddin ap Dafydd
  • Cyhoeddi: Gorffennaf 2023
  • Darluniwyd gan Elin Manon
  • Fformat: Clawr Caled, 217x214 mm, 48 tudalen

Cath y felin yn Sain Ffagan yw Sibrwd. Fel arfer mae'r pentref yn llawn pobl a phlant ac yn llawn crefftwyr a gweithwyr ac mae'n le difyr i gath fyw. Ond dyma hanes Nadolig cyntaf Sibrwd yn Sain Ffagan y diwrnod pan fydd y maes parcio yn wag a'r pentref yn dawel.

Bywgraffiad Awdur: Mae Elin Manon Cooper yn ddarlunydd llawrydd wedi'i lleoli rhwng ei dau gartref yng Nghaerdydd ac Aberfal yng Nghernyw, gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Darlunio o Brifysgol Aberfal. Mae ei gwaith yn aml yn cael ei ysbrydoli gan fyd natur, tirweddau, straeon gwerin a thraddodiadau gwerin, yn enwedig o Gymru a Chernyw. Wedi'i dylanwadu gan ei blynyddoedd ffurfiannol a'r llyfrau ddarllenodd fel plentyn, mae angerdd am adrodd straeon wedi bod yn ysgogiad cyson yn ei gwaith. Trwy b?er y dychymyg a delweddau, mae hi'n anelu at ddod ag ymdeimlad o hud i'r bywyd beunyddiol, mewn cymdeithas lle mae pobl aml yn canolbwyntio ar y byd modern ar materol.

Mae gwaith diweddara Elin yn cynnwys cyfrol hardd Dros y Môr ar Mynyddoedd Chwedlau Merched Dewr y Celtiaid ac amryw o brosiectau, megis y Google Doodle i ddathlu Dydd G?yl Dewi 2021, darluniadau ar gyfer The Maverick Guide to Cornwall, a gwaith logo ymysg eraill.

Gwybodaeth Bellach:

Eto, mae gan gath lygaid craff. Mae'n clywed pob smicyn. Mae ganddi naw bywyd. Mae'r pentref yn dod yn fyw i Sibrwd wrth iddi grwydro o adeilad i adeilad ar ddydd Nadolig. Mae'r Nadolig ei hun yn llawn profiadau hen a newydd iddi hefyd. Drwy daith y gath cawn ailbrofi atyniadau a rhyfeddodaur Amgueddfa Werin a hefyd blasu dathliadaur Nadoligau a fu yng ngwahanol gyfnodau hanes Cymru.

Cyfrol fydd yn cyd-fynd â dathliadaur Amgueddfa Werin yn 75 oed.