This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Dysgwyr/Welsh Learners

Ar y dudalen hon mae holl deitlau Carreg Gwalch i ddysgwyr sy'n rhan o'r gyfres Amdani.

Cyfres Amdani
Mae’r gyfres lyfrau Amdani i bobl sy’n dysgu Cymraeg. Cafodd y gyfres ei chreu yn 2018. Roedd yn brosiect rhwng Cyngor Llyfrau Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae pob math o lyfrau yn y gyfres – straeon ditectif, nofelau serch, hunangofiannau, comedi a straeon byrion. Mae’r holl lyfrau yn cyd-fynd â chyrsiau Dysgu Cymraeg y Ganolfan. Mae’r llyfrau wedi cael eu graddoli ar wahanol lefelau dysgu, o lefel Mynediad i bobl sy’n dechrau dysgu Cymraeg, i lefel Uwch ar gyfer dysgwyr profiadol. Mae'r llyfrau hefyd ar gael yn eich siop lyfrau leol neu trwy blatfform e-lyfrau’r Cyngor Llyfrau, ffolio.cymru 

 

Dilynwch liwiau’r gyfres ar y cloriau:

Melyn     Mynediad (Entry)
Gwyrdd  Sylfaen (Foundation)
Glas        Canolradd (Intermediate)
Coch       Uwch (Advanced)

 

Geirfa/Vocabulary:

cyfres - series

creu - to create

Cyngor Llyfrau Cymru - Books Council of Wales

Canolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol - National Centre for Learning Welsh

serch - love, romance

hunangofiannau - autobiographies

straeon byrion - short stories

cyd-fynd â - to go together with, to match

graddoli - to grade, to classify

profiadol - experienced

Filter by

Llyfrau ar gael
0 selected Reset
Pris
The highest price is £6.95 Reset
£
£
  1. Trysor Garn Fadryn
  2. Mwy o Arwyr Cymru
  3. I'r Eisteddfod (Cyfres Amdani)
  4. Chwedlau Cymru: Y Mor (Cyfres Amdani)
  5. Chwedlau Cymru: Ceffylau
  6. 20 o Arwyr Cymru (Cyfres Amdani)