This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Yr Un Oed â Bawd fy Nhroed

  • £3.95
  • £0.00
  • Cyhoeddi Mawrth 2006
  • Golygwyd gan Myrddin ap Dafydd
  • Addas i oed 7-9+ neu Cyfnod Allweddol 2/3
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 72 tudalen

Cyfrol o gerddi lloerig am y corff, wedi'i hanelu at blant.

Adolygiad Gwales
Dyma lyfr arall yn y gyfres ‘Cerddi Lloerig’ i blant (yr unfed ar bymtheg). Mae’r cerddi yn waith amryw o feirdd cyfoes, gan gynnwys y golygydd, Myrddin ap Dafydd. Y tro hwn y thema yw ‘cerddi lloerig am y corff’.

Mae cyfres ‘Cerddi Lloerig’ wedi gwneud gwaith ardderchog dros y blynyddoedd i ddenu plant i fwynhau barddoniaeth, ac mae sawl gem yn y gyfrol ddiweddaraf hon. Nid yw pob cerdd yn ‘lloerig’, serch hynny, ond nid yw hynny’n fai. Mae ambell un fel ‘Curiad Cariad’ yn gerdd sensitif a chariadus, ‘Gofal’ yn annwyl a hoffus, a ‘Gordyfu’ wedyn yn annog plant i ddarllen ymhellach. Mae yma ambell gerdd ‘ffwrdd-â-hi’ sy’n wannach na’r rhelyw ac yn tueddu i adael i’r odl reoli’r cynnwys.

Mae’r darluniau du a gwyn gan Siôn Morris yn wledd i’r llygad ac yn ehangu dealltwriaeth y plant o gynnwys y cerddi. Mae hon yn gyfrol ddylai fod ar silff lyfrau pob plentyn a phob ysgol.

Eiry Palfrey