- Mamwlad - Merched Dylanwadol Cymru
- ISBN: 9781845275358
- Cyhoeddi Mawrth 2016
- Golygwyd gan Beryl H. Griffiths
- Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 224 tudalen
Yn dilyn llwyddiant Mamwlad ar S4C, dyma gyfrol sy'n rhoi golwg fanylach ar rai o'r merched herfeiddiol a beiddgar sy'n cael eu trafod yn y cyfresi. Gan dynnu ar ffynonellau llafar ac ysgrifenedig, cawn bortreadau difyr o'r merched hyn fu mor ddylanwadol yn eu meysydd unigol.
Un o'r cyfresi mwyaf poblogaidd ar S4C yn ddiweddar oedd Mamwlad, sef cyfres o raglenni a oedd yn llawn straeon arloesol am ferched Cymru. Maer merched oll wedi bod yn unigolion hynod ddylanwadol, a'u llwyddiannau'n rhyfeddol, o ystyried rhai o'r rhwystrau oedd yn eu herbyn, yn bersonol, yn deuluol ac yn gymdeithasol.
Y maer llyfr hwn yn seiliedig ar y gyfres ddifyr honno, a braf yw cael cofnod ysgrifenedig or gorchestion.
Olrheinir hanes deg merch yn y gyfrol hon, sef Betsi Cadwaladr, Gwenynen Gwent, Cranogwen, Dr Frances Hoggan, Gwen John, y Chwiorydd Davies, Margaret Haig Thomas, Grace Williams a Laura Ashley. Y maer cofnodion oll yn ysgolheigaidd eu naws wrth ir croniclo gynnwys tystiolaeth o ffynonellau addas a dibynadwy. Cynhwysir hefyd nifer o luniau perthnasol ac y mae eu cyflwyno mewn du a gwyn yn addas ir llyfr hwn.
Dyma gyfrol syn difyrru'r darllenydd cyffredin ond hefyd gall fod o ddefnydd i fyfyrwyr ysgol a choleg. Mae sawl dynes arall wedii phortreadu yn y gyfres deledu ac ni ellir ond gobeithio y bydd llyfr arall yn gweld golau dydd er mwyn rhoi ar gof a chadw orchestion rhagor o ferched Cymru. Ar ddiwedd y gyfrol ceir awgrymiadau am ffynonellau i bori ymhellach ynddynt.