This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
- Mamwlad - Merched Dylanwadol Cymru
- ISBN: 9781845275358
- Cyhoeddi Mawrth 2016
- Golygwyd gan Beryl H. Griffiths
- Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 224 tudalen
Un o'r cyfresi mwyaf poblogaidd ar S4C yn ddiweddar oedd Mamwlad, sef cyfres o raglenni a oedd yn llawn straeon arloesol am ferched Cymru. Maer merched oll wedi bod yn unigolion hynod ddylanwadol, a'u llwyddiannau'n rhyfeddol, o ystyried rhai o'r rhwystrau oedd yn eu herbyn, yn bersonol, yn deuluol ac yn gymdeithasol.
Y maer llyfr hwn yn seiliedig ar y gyfres ddifyr honno, a braf yw cael cofnod ysgrifenedig or gorchestion.
Olrheinir hanes deg merch yn y gyfrol hon, sef Betsi Cadwaladr, Gwenynen Gwent, Cranogwen, Dr Frances Hoggan, Gwen John, y Chwiorydd Davies, Margaret Haig Thomas, Grace Williams a Laura Ashley. Y maer cofnodion oll yn ysgolheigaidd eu naws wrth ir croniclo gynnwys tystiolaeth o ffynonellau addas a dibynadwy. Cynhwysir hefyd nifer o luniau perthnasol ac y mae eu cyflwyno mewn du a gwyn yn addas ir llyfr hwn.
Dyma gyfrol syn difyrru'r darllenydd cyffredin ond hefyd gall fod o ddefnydd i fyfyrwyr ysgol a choleg. Mae sawl dynes arall wedii phortreadu yn y gyfres deledu ac ni ellir ond gobeithio y bydd llyfr arall yn gweld golau dydd er mwyn rhoi ar gof a chadw orchestion rhagor o ferched Cymru. Ar ddiwedd y gyfrol ceir awgrymiadau am ffynonellau i bori ymhellach ynddynt.