- Arthur - Breuddwydiwr a Gweithredwr
- ISBN: 9781845277482
- Cyhoeddi Mehefin 2020
- Golygwyd gan Gol. Eryl Owain
- Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 176 tudalen
Fedrwch chi ddim rhoi label ar Arthur. Nid byw y tu ôl i ddamcaniaethau roedd o, ond byw drwy weithredoedd. Trwy atgofion cyfeillion a geiriau Arthur ei hun, cawn ddarlun cynnes ohono. Roedd yn gymeriad adnabyddus ledled Cymru mewn Eisteddfodau, ralïau, gwyliau a gêmau rygbi a byddai criw'n hel o'i amgylch am sgwrs a chân a thynnu coes.
Gwybodaeth Bellach: Cymro cadarn a brogarwr balch, cymeriad ffraeth a chwmnïwr diddan ond hefyd dyn teulu a chyfaill triw i laweroedd dyna i chi Arthur. Wedii wreiddio yng Nghymreictod Penmachno, bun brotestiwr brwd yn ddyn ifanc a gwisgodd grys ei wlad yn ddi-gyfaddawd trwy gydol ei oes. Breuddwydiai am Gymru fyddain falch ohonii a bun byw i geisio gwireddur freuddwyd wrth sefydlu papur bro Yr Odyn neu Glwb Rygbi Nant Conwy yn ei fro enedigol, yn aelod o gorau, yn golofnydd difyr a dadleuol ir Cymro ar Wylan, papur bro ei ardal fabwysiedig yn Eifionydd, yn awdur cyfrolau poblogaidd ac yn fardd aml-gadeiriog.
Roedd yn perthyn i fudiadau'r iaith a dyfodol Cymru, ond welech chi mohono'n geffyl blaen. Mynd ati i roi addysg Gymraeg i blant mewn ffordd oedd yn eu gwneud i glosio at y pwnc a'r iaith wnaeth o; dychwelyd i fyw ym Mhenmachno a chreu cylch o ddigwyddiadau roedd pobl ifanc yn mynd iddynt am eu bod yn mwynhau'u hunain. Un o sefydlwyr papur bro Yr Odyn, ond darllenwyr y fro nid y fo oedd yn bwysig. Un o sefydlwyr Clwb Rygbi Nant Conwy a wnaeth gymaint â dim arall i uno cymdeithas ifanc y dyffryn, a hynny gan ddefnyddio'r iaith ar lawr gwlad. Dyma gyfle i gofio am yr hwyl ac am freuddwydion a gweithredoedd Arthur.