This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

William Morgan, T? Mawr a'r Wybrnant

  • £10.00
  • £0.00
  • William Morgan, T? Mawr a'r Wybrnant
  • ISBN: 9781845278007
  • Eryl Owain
  • Cyhoeddi: Ebrill 2022
  • Fformat: Clawr Meddal, 210x210 mm, 150 tudalen

Yn 2020, caewyd drysau T? Mawr Wybrnant gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sydd â chyfrifoldeb dros yr adeilad. Cafwyd gwared â swydd warden cartrefi un o'r bobl mwyaf creiddiol yn hanes yr iaith Gymraeg, sef yr Esgob William Morgan.

Gwybodaeth Bellach:

Roedd y gamp a gyflawnodd wrth drosi'r Beibl i'r Gymraeg yn allweddol yn y cyd-destun Cymreig, ond yr oedd hefyd - fel y dangoswyd gan fwy nag un ysgolhaig - yn gamp o bwys Ewropeaidd. Rhoddwyd seiliau rhyddiaith fodern i'r Gymraeg a gwelodd y canrifoedd dilynol ffrwd o gyhoeddiadau yn y Gymraeg ar rychwant eang o destunau. Cafodd yr iaith statws gyhoeddus yn yr eglwys mewn cyfnod pan oedd hynny yn allweddol bwysig. Wrth gau'r drysau, daeth degawdau, os nad canrifoedd, o bererindota i D? Mawr Wybrnant i ben. Mae'r gyfrol hon yn ailgyhoeddi hanes ymweliadau yn y gorffennol gan ailorseddu arwyddocâd y cartref a'r cwm ym meddyliau'r darllenwyr. Bydd yn cynnwys profiadau ymwelwyr o wledydd tramor yn ogystal ag atgofion rhai o'r wardeiniaid diweddar; cawn hanes adfer yr adeiladau a chip ar y casgliad eang o Feiblau a esgorodd yn dilyn ymweliadau. Cynhwysir cerddi a hanesion a lluniau rhai pererindodau cymdeithasol â'r safle.

Bydd hyn i gyd yn creu cyfrol sy'n tanlinellu unwaith eto pam fod y cartref a'r hanes yn drysor cenedlaethol. Bydd, gobeithio, yn codi proffeil y lle unwaith eto ac yn arwain at ailystyried y penderfyniad i beidio å chael warden parhaol ac oriau agor sefydlog i'r adeilad.