- ISBN: 9781845275440
- Hefin Jones
- Cyhoeddi Tachwedd 2016
- Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 366 tudalen
Mae\'r gyfrol hon yn ymweld â sawl cyfnod o sawl congl o\'r ddaear. Mae\'n dechrau gyda hanes y Saeson yn goresgyn tir eu cymdogion Celtaidd ac yna\'n lledu\'u hesgyll at orwelion pellach. Aiff hefyd at wreiddiau pwrpas yr ymerodraeth, ac wrth neidio o wlad i wlad codir y cwestiwn: pa weithredoedd ysgeler a gyflawnwyd gan ei llaw gudd, dwyllodrus a thywyll?
Gwybodaeth Bellach:
Y Cymry (a’r Brythoniaid) oedd y cyntaf i ddisgyn i’r grym milwrol goresgynnol sy’n cael ei redeg o Lundain. Hanes ein brwydrau a’n colledion yw pennod gyntaf y gyfrol hon, ac yna ymweld â gwledydd agos a phell a sathrwyd gan yr Ymerodraeth – o’n cefndryd Celtaidd i’r cyfandiroedd ‘newydd’ a gafodd eu ‘darganfod’ a’u ‘datblygu’ gan y pwerau Llundeinig. Cafodd miliynau o bobl ar draws y byd eu llofruddio, eu caethweisio neu eu halltudio a chlymwyd eu gwledydd wrth gadwyni economaidd a fyddai’n eu cadw’n ddifreintiedig a thlawd er mwyn sicrhau bod eu hadnoddau a’u cyfoeth yn hwylio dros y môr i Loegr.
Ond er fod y faner goch, gwyn a glas wedi hen orffen hedfan dros chwarter y byd, mae pawennau’r hen Ymerodraeth Brydeinig yr un mor fachog ag erioed.
Yng Ngorffennaf 2016, cyhoeddodd llywodraeth Prydain na fydd rheolaeth dros adnoddau naturiol Cymru yn rhan o’r pecyn nesaf a ddatganolir i Gaerdydd. Mae Bwrdd Dŵr Severn Trent (sy’n rheoli cronfeydd dŵr anferthol canolbarth Cymru) yn gwneud elw anferth yn gwerthu’r adnodd gwerthfawr hwnnw o’u swyddfa yn Coventry. Ystafell llofft yn y ddinas honno hefyd yw lleoliad y Syrian Observatory for Human Rights, yr awdurdod honedig i gyfryngau Lloegr ar bob newyddion o’r rhyfel cartref hwnnw. Y bunt yw’r wobr a’r gyriant yn y ddwy swyddfa. Dyma’r hanes na chlywn amdano yn yr ysgol ac nad oes sôn amdano ar y cyfryngau.
Dyma’r hanes y mae’n rhaid inni wybod amdano i ddeall ein presennol ac er mwyn wynebu’r dyfodol fel cenedl.