This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
- O na fyddai'n Haf o hyd!
- ISBN: 9781845278069
- Haf Thomas
- Cyhoeddi: Tachwedd 2024
- Golygwyd gan Ifor ap Glyn
- Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 190 tudalen
Mae Haf Thomas o Lanrug yn dipyn o gymeriad! Mae wedi llefaru ar lwyfan yr Urdd, mae wedi bod yn ecstra ar Pobol y Cwm, mae wedi switsio goleuadau'r Nadolig ymlaen yng Nghaernarfon – ac mae wedi codi trigain mil o bunnoedd i elusennau gwahanol. Hyn i gyd gan ferch sy'n gwrthod gadael i anawsterau bywyd ei threchu.
Bywgraffiad Awdur:
Pan anwyd Haf yn 1971 roedd yn dipyn o sioc i'w rhieni Ann ac Irfon pan ddeallon nhw fod syndrôm Downs arni. Ers hynny, yr unig sioc yw ei dawn barhaus i gael y gorau o'r bobol o'i chwmpas. Mae ei theulu a'i chymuned wedi bod yn gefn iddi - ond mae hithau yn ei thro wedi gwneud mwy na'r rhan fwyaf ohonom i dalu'r gymwynas yn ôl.
Yn y gyfrol hon, mae'n adrodd ei stori ei hun - ac mae'n stori gwerth ei rhannu.
Yn y gyfrol hon, mae'n adrodd ei stori ei hun - ac mae'n stori gwerth ei rhannu.