- Martin Huws
- ISBN: 9781845276768
- Cyhoeddi Gorffennaf 2018
- Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 152 tudalen
Dyma gasgliad o 30 o straeon arloesol, y rhan fwya ohonynt wedi'u gosod yn 'un o brifddinasoedd gorau Ewrop'. Ond trueiniaid bywyd, collwyr, anffodusion yw'r cymeriadau sy wedi eu clwyfo a'u cam-drin, yn diodde o salwch corfforol a meddyliol, heb wireddu eu potensial na'u huchelgais ac yn sigo dan bwysau unigrwydd.
Bywgraffiad Awdur:
Daw Martin Huws yn wreiddiol o Gaerdydd. Mae wedi bod yn weithiwr dur, yn swyddog clerigol ac yn ofalwr shifft. Pan oedd yn newyddiadura ar y Western Mail, Y Byd ar Bedwar a Week In Week Out, enillodd wobrau Cymreig a Phrydeinig. Maen nofelydd ac yn fardd cadeiriol a choronog.
Gwybodaeth Bellach:
Mae agwedd yr awdur atyn nhwn onest, yn llawn empathi, yn ddisentiment. Ai arddull yn ffresh ac uniongyrchol. Hwn yw cyfarwydd y ddinas fodern gan fod dyfnder ystyr o dan ei gynildeb crefftus. Yn y straeon amrywiol fe lwydda i fynegi lleisiaur rhai sy heb lais. Daeth yn ail yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Môn a dywedodd y beirniaid: Dyma gyfrol fwyaf arloesol a dewr y gystadleuaeth, yn sicr: ai drama yw hi, neu ryddiaith, neu gerdd? ... Roedd rheolaeth yr awdur ar ei gyfrwng yn absoliwt. Francesca Rhydderch ... roedd hin amlwg or cychwyn fod yma lenor a wyddain union yr hyn yr oedd yn ceisioi wneud ...Mae yna fydoedd wedi eu crynhoi ir storïau hyn, neuaddau mawr rhwng cyfyng furiau. Gerwyn Wiliams Mae rhywbeth prin iw ganfod yn y gyfrol hon o straeon byr iawn. Dotiais at y ffurf wahanol rywle rhwng stori fer, llên micro a drama, syn cynnig lefel ffres o gynildeb ac yn dibynnun bennaf ar ddeialogi ... Mae eu brawddegau cwta au cynildeb ingol yn celu fflach o ddyfnder yn y prin-ddweud ... Lleucu Roberts