
This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
Daw Non Mererid Jones yn wreiddiol o dref Pwllheli, Llŷn. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Cymerau, Ysgol Glan y Môr a Choleg Meirion-Dwyfor, Pwllheli cyn mynd ymlaen i Brifysgol Caerdydd i astudio’r Gymraeg. Ar ôl graddio gyda gradd BA Cymraeg yn 2012, dychwelodd i’r gogledd-orllewin i ddilyn cwrs MA Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Ar ôl graddio am yr ail dro, enillodd ysgoloriaeth yn 2014 i wneud PhD mewn Llenyddiaeth Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Enillodd ei doethuriaeth yn 2020. Bu’n gweithio fel Tiwtor Cymraeg i Oedolion am flynyddoedd ac mae hi erbyn heddiw yn Ddarlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.
Mae hi’n byw ym Mhwllheli gyda’i theulu. Rhwng gweithio a magu, mae hi wrth ei bodd yn ysgrifennu (pan fydd yr awydd yn codi) ac yn darllen (pan fydd hi’n cael amser i wneud hynny). Mae hi hefyd yn mwynhau rhedeg a nofio, ond yr hyn sy’n rhoi’r boddhad mwyaf iddi yw hel caffis gyda’i mab, Lleu.
Dechreuodd ei diddordeb mewn ysgrifennu creadigol yn gynnar iawn yn ei bywyd. Cafodd lwyddiant yn ystod ei harddegau mewn cystadlaethau rhyddiaith yn Eisteddfod yr Urdd ac mewn eisteddfodau lleol. Tra oedd hi’n brysur yn ymchwilio ac yn ysgrifennu thesis PhD ar T. James Jones a Dylan Thomas, rhywbeth mympwyol ac achlysurol yn unig oedd y gwaith creadigol.
Rhwng dechrau a diwedd y PhD, mae hi wedi cyhoeddi ambell ddarn yma ac acw (rhyw botsian sgwennu), enillodd y Goron yn Eisteddfod Ryng-golegol Bangor 2017 am ysgrifennu stori fer a daeth i’r brig hefyd yn y gystadleuaeth ysgrifennu stori fer yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017. Dechreuodd ysgrifennu ‘go iawn’ unwaith eto ar ddiwedd ei chyfnod mamolaeth yn 2022 a mentrodd anfon darn o waith estynedig am y tro cyntaf i gystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol dan y ffugenw Merch y Wendon Hallt, sydd bellach yn deitl ar ei chyfrol gyntaf.
![]() |