- Prydlondeb a Ffyddlondeb
- ISBN: 9781845278168
- Penri Roberts
- Cyhoeddi: Gorffennaf 2021
- Fformat: Clawr Meddal, 210x212 mm, 240 tudalen
Sefydlwyd Cwmni Theatr Maldwyn ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth yn 1981. Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, mae'n parhau i gynnig profiadau theatrig a cherddorol cyfoethog i ieuenctid yr ardal ac yn dal i ddiddanu cynulleidfaoedd.
Gwybodaeth Bellach:
O'r sioe gyntaf, 'Y Mab Darogan' hyd at ddathliad y cwmni yn 2021, dyma stori'r broses o greu cwmni mewn rhan wledig o Gymru a'r ffordd y denwyd pobl o Faldwyn, Meirion a Cheredigion i fod yn aelodau dros y blynyddoedd. Closiwn hefyd at berthynas arbennig y triawd, Linda Gittins, Derec Williams a Penri Roberts wrth iddynt greu sioeau eiconig a thrysorfa o ganeuon sy'n parhau i fod yn boblogaidd hyd heddiw.
Mae llwyddiant y cwmni yn ddiarhebol: o lenwi Pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol ar sawl achlysur, teithio i berfformio ym mhrif theatrau y genedl ac i werthu pob tocyn mewn dau berfformiad ar yr un diwrnod o'r sioe 'Ann!' yn Venue Cymru Llandudno a Neuadd Dewi Sant Caerdydd. Dyma gofnod sy'n cynnwys llu o luniau o holl gynyrchiadau'r cwmni, ynghyd â hanes sefydlu Ysgol Theatr Maldwyn yn 2004 gan ddathlu yn ogystal lwyddiant rhai o'r cyn-aelodau sy'n serennu ar lwyfan y West End yn Llundain erbyn hyn.
"Mae'r Eisteddfod ac yn wir Cymru gyfan yn ddyledus i Derec, Penri a Linda am gyfoethogi ein diwylliant ac am roddi cyfle i gymaint o ieuenctid ein gwlad i gael bod yn rhan o brosiectau cymunedol mor werthfawr." Elfed Roberts, Cyn Brifweithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol
"Ac wedi deugain mlynedd, mae cyfraniad y cwmni hynod hwn yn anferth. Mae wedi rhoi llwyfan i rai o'n lleisiau a'n hactorion gorau ni, mae wedi diddanu degawdau o gynulleidfaoedd awchus a thrwy gân a geiriau wedi'n haddysgu am rai o ddigwyddiadau a phersonoliaethau mwyaf arwyddocaol ein hanes." Caryl Parry Jones