Golwg Sydyn Bargen Loading... Un Stribedyn Bach £8.00 £0.00 - £-8.00 ISBN: 9781845274788 Rhys Iorwerth Cyhoeddi Mehefin 2014 Darluniwyd gan Rhys Aneurin Fformat: Clawr Meddal, 183x126 mm, 80 tudalen Casgliad cyntaf o gerddi gan fardd mwyaf cyffrous ei genhedlaeth. Enillydd y Gadair Genedlaethol yn Wrecsam yn 2011.Bywgraffiad Awdur:Mae Rhys Iorwerth a Rhys Aneurin yn byw dafliad carreg oddi wrth ei gilydd yn y brifddinas: y naill yn ardal Glan-yr-afon a’r llall yn Grangetown. Tafliad carreg fymryn pellach, ond nid llawer pellach chwaith, sydd rhwng gwreiddiau’r ddau yng Nghaernarfon a Llanfairpwll.Rhys Iorwerth oedd enillydd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 2011. Ar hyn o bryd, mae’n trefnu nosweithiau Bragdy’r Beirdd ac yn cynnal dosbarthiadau cynganeddu yng ngorllewin Caerdydd. Mae’n aelod ffyddlon o dîm talwrn Aberhafren a thîm ymryson y Deheubarth.Mae Rhys Aneurin yn ddarlunydd sydd wedi cydweithio â Rhys Iorwerth ar sawl prosiect ers iddynt gyfarfod yng ngaeaf 2011. Dyma’r ddiweddaraf o blith nifer o gloriau i Rhys eu dylunio dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r berthynas rhwng geiriau a delweddau yn rhywbeth sy’n diddori’r ddau. Default Title - £8.00 Nifer - + Ychwanegu i`r bag siopa View all details Un Stribedyn Bach £8.00
Golwg Sydyn Bargen Loading... Cawod Lwch £9.00 £0.00 - £-9.00 Cawod Lwch ISBN: 9781845278045 Rhys Iorwerth Cyhoeddi: Tachwedd 2021 Darluniwyd gan Geraint Thomas Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 122 tudalen Casgliad newydd o farddoniaeth gan y bardd Rhys Iorwerth - cerddi'r tridegau, cerddi newid byd - sydd wedi dychwelyd i'w fro enedigol yng Nghaernarfon, wedi pymtheg mlynedd yng Nghaerdydd. 'Plethiad o'r heulog a'r drycinog, y dwys a'r ysgafn, y mawr a'r mân' sydd yma, gyda ffotograffau Geraint Thomas yn lliwio'r cyfan.Gwybodaeth Bellach:Casgliad newydd y bardd sydd bob amser yn dal sylwr gynulleidfa mewn ymryson, noson Bragdyr Beirdd neu mewn print. Ymysg y cerddi mae rhai ar thema dychwelyd o Gaerdydd i Gaernarfon; dechrau teulu; yr Ewros (x2) ac ambell daith; cerddi Brexit a Phrydeindod a digwyddiadau cyfoes eraill. Mae Geraint Thomas yn ffotograffydd proffesiynol yn arbenigo mewn golygfeydd a thirluniau ac yn gweithio o Gaernarfon. Dwin trio dweud stori drwy fy lluniau, meddai. Sialens newydd a braf ydi ceisio dal naws cerddi bardd cyfoes fel Rhys Iorwerth drwy lygad y camera. Grisialur teimlad a chadwr eiliad dwin meddwl yn gryfach nag erioed wrth weithio ar y casgliad yma mai dyna ydi gwaith bardd a ffotograffydd. Default Title - £9.00 Nifer - + Ychwanegu i`r bag siopa View all details Cawod Lwch £9.00