- Arwyn Herald - Hunangofiant Ffotograffydd Papur Newydd
- ISBN: 9781845275709
- Cyhoeddi Medi 2016
- Gol. Tudur Huws Jones
- Fformat: clawr meddal, 215x138mm, 208 tudalen
Dechreuodd Arwyn Roberts o Rosgadfan, neu Arwyn Herald i bawb sy\'n ei nabod, ar ei yrfa gyda Phapurau\'r Herald ddeugain mlynedd yn ôl, fel cysodydd. Yn fuan wedyn, symudodd i fyd ffotograffiaeth, a dod yn wyneb cyfarwydd ledled Cymru yn ogystal â\'i ardal enedigol.
Bywgraffiad Awdur:
Brodor o Rosgadfan ydy Arwyn Roberts, ac mae\'n wyneb cyfarwydd yn eisteddfodau a gwyliau Cymru gyda\'i gamera. Cafodd ei urddo i\'r Orsedd er Anrhydedd yn 2005 dan yr enw barddol Arwyn Herald. Cyhoeddodd gyfrol am gau ffatri Friction Dymamics yng Nghaernarfon ar y cyd ag Ian Edwards a Trystan Pritchard yn 2006, Drwy Lygad y Camera yn 2010 a Pobol Arwyn Herald yn 2012.
Gwybodaeth Bellach:
Mae Arwyn Roberts, neu Arwyn Herald, yn wyneb cyfarwydd ledled Cymru o ganlyniad i ddegawdau o droedio meysydd y Sioe Fawr a\'r Eisteddfod yn tynnu lluniau i bapurau newydd yr Herald. Yn ystod ei yrfa ddeugain mlynedd o hyd, mae wedi bod yn dyst i newidiadau mawr yn y diwydiant papur newydd a thechnegau ffotograffiaeth - ac wedi cael profiadau unigryw!
Yn yr hunangofiant difyr hwn cewch gip ar y straeon tu ôl i\'r lluniau...galwadau ffôn llawn dirgelwch yn gysylltiedig â Meibion Glyndŵr, cyfarfod sêr rhyngwladol, peryglu ei fywyd ar do fan ar drywydd stori - heb sôn am gael ei stopio gan blismon ar lonydd culion Pen Llŷn, ac yntau yn ei drôns...