This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Arwyn Herald - Hunangofiant Ffotograffydd Papur Newydd

  • £8.00
  • £0.00
  • Arwyn Herald - Hunangofiant Ffotograffydd Papur Newydd
  • ISBN: 9781845275709
  • Cyhoeddi Medi 2016
  • Gol. Tudur Huws Jones
  • Fformat: clawr meddal, 215x138mm, 208 tudalen

Dechreuodd Arwyn Roberts o Rosgadfan, neu Arwyn Herald i bawb sy\'n ei nabod, ar ei yrfa gyda Phapurau\'r Herald ddeugain mlynedd yn ôl, fel cysodydd.  Yn fuan wedyn, symudodd i fyd ffotograffiaeth, a dod yn wyneb cyfarwydd ledled Cymru yn ogystal â\'i ardal enedigol.

Bywgraffiad Awdur:

Brodor o Rosgadfan ydy Arwyn Roberts, ac mae\'n wyneb cyfarwydd yn eisteddfodau a gwyliau Cymru gyda\'i gamera.  Cafodd ei urddo i\'r Orsedd er Anrhydedd yn 2005 dan yr enw barddol Arwyn Herald.  Cyhoeddodd gyfrol am gau ffatri Friction Dymamics yng Nghaernarfon ar y cyd ag Ian Edwards a Trystan Pritchard yn 2006, Drwy Lygad y Camera yn 2010 a Pobol Arwyn Herald yn 2012.

Gwybodaeth Bellach:

Mae Arwyn Roberts, neu Arwyn Herald, yn wyneb cyfarwydd ledled Cymru o ganlyniad i ddegawdau o droedio meysydd y Sioe Fawr a\'r Eisteddfod yn tynnu lluniau i bapurau newydd yr Herald.  Yn ystod ei yrfa ddeugain mlynedd o hyd, mae wedi bod yn dyst i newidiadau mawr yn y diwydiant papur newydd a thechnegau ffotograffiaeth - ac wedi cael profiadau unigryw!

Yn yr hunangofiant difyr hwn cewch gip ar y straeon tu ôl i\'r lluniau...galwadau ffôn llawn dirgelwch yn gysylltiedig â Meibion Glyndŵr, cyfarfod sêr rhyngwladol, peryglu ei fywyd ar do fan ar drywydd stori - heb sôn am gael ei stopio gan blismon ar lonydd culion Pen Llŷn, ac yntau yn ei drôns...