This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
- Awdur: Myrddin ap Dafydd
- Cyhoeddi Medi 2008
- Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 98 tudalen
Casgliad o gerddi diweddaraf y Prifardd Myrddin ap Dafydd. Hen hanes a hir yw'r daith - ond mae cyfle newydd yn torri dros y tir unwaith eto. Aeth hi'n nos ar yr hen syniadaeth - y canoli pell, y pwyslais ar y mawr. Y lleol a'r bychan fydd yn dal y pelydrau yn y ganrif hon.
Gwybodaeth Bellach:
Wrth gyhoeddi ei gasgliad diweddaraf o gerddi, dywedodd Myrddin ap Dafydd fod teitl y gyfrol, Bore Newydd, wedi cynnig ei hun iddo yn eithaf didrafferth: 'Dyma fy nghasgliad cyntaf o gerddi'r ganrif hon ac mae 'na deimlad drwyddi o gyfnod newydd o safbwynt ein potensial ni fel Cymry ac o safbwynt fy mhlant i sydd bellach yn tyfu i fod yn genhedlaeth ifanc newydd. Y bore ydi fy hoff amser i o'r dydd ac os bydda' i'n gorfod teithio i rywle, wel yr oriau cynnar amdani bob tro. Mae un gerdd yn seiliedig ar daith rhwng gogledd a de Cymru ac yn disgrifio'r profiad o weld y wawr yn torri. Milltir yn gynharach, doedd 'na ddim i'w weld ond lampau'r car yn torri drwy'r tywyllwch. Yna, mae'r gyrrwr yn dechrau sylwi ar bethau bychain yn y llwydolau yn ffenest ochr y car - barrug ar welltyn, gwythiennau deilen, graen llaith llechen ar do. Mwya' sydyn wedyn, ffrwd o olau a môr o liw. Rhywle yn fan'na rydan ni ar ein taith ar hyn o bryd - arwyddion bach, bach a llwyd, llwyd ein bod ni'n mynd i'r cyfeiriad cywir. Dwi'n hoff iawn o luniau Tony Jones o'r wawr yn torri dros darth Llŷn ac roedd y teitl yn esgus da dros roi un o'r rheiny ar y clawr.'
Mae haul a dagrau yn perthyn i'r bore bach ac unwaith eto mae rhai o gerddi Myrddin yn cyflenwi swyddogaeth y traddodiad barddol Cymraeg wrth iddo ganu i ddathlu genedigaeth neu orchest arbennig a hefyd canu er cof. Mae llawer o’r cerddi wedi'u hysbrydoli gan ardal Llithfaen a phlwy' Carnguwch, milltir sgwâr y bardd erbyn hyn, gyda'r ardal honno yn ddrych o'r hyn sy'n digwydd ym mhob ardal wledig arall drwy Gymru ac yn ehangach na hynny.
'Mae busnesau bychain a broydd bychain wedi bod dan warchae hir yn ystod yr ugeinfed ganrif', meddai Myrddin. 'Ond mae 'na arwyddion bod y byd yn callio ac yn rhoi gwerth ar ddiwylliant a chynnyrch lleol unwaith eto.' Mae’r brwydrau diweddar dros ddyfodol i ysgolion bychain a threfi marchnad Gwynedd yn gefndir i amryw o'r cerddi.
Er bod y gynghanedd draddodiadol ac amrywiadau Myrddin ar yr hen fesurau yn flaenllaw yn y casgliad, un syndod efallai yw bod traean y cerddi yn sonedau. 'Dwi wedi dod yn hoff iawn o fesur y soned yn ddiweddar', esboniodd Myrddin. 'Ar ôl troi'r hanner cant, mae rhai atgofion yn gliriach a dwi'n gweld y soned yn fesur da i adrodd stori neu anecdot, neu i ddisgrifio digwyddiad arbennig. Dwi wedi bod yn mynd i weld drama Shakespeare efo Mam bob blwyddyn ers pum mlynedd a dwi'n mwynhau'r farddoniaeth theatrig honno yn fawr. Ac mae'r ffaith bod y Meuryn yn hoff o'r mesur wedi dylanwadu arna' innau hefyd, mae'n siŵr'.
Mae sŵn y môr yn amlycach yn y canu nag erioed ac mae Myrddin yn diolch i'r tri aelod arall yn nhîm y Tir Mawr am hynny. Lluniau du a gwyn o gasgliad Tony Jones sydd wedi'u cynnwys y tu mewn gyda'r cerddi yn ogystal – pedwar llun ar ddeg o luniau o Nant Gwrtheyrn cyn i'r pentref gael bywyd newydd fel Canolfan Iaith.