This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Caneuon y Coridorau

  • £4.95
  • £0.00
  • ISBN: 9780863819704
  • Awdur: Tudur Dylan Jones, Mererid Hopwood et al
  • Cyhoeddi Mehefin 2005
  • Golygwyd gan Myrddin ap Dafydd, Llinos Jones
  • Darluniwyd gan Jac Jones
  • Addas i oed 12+ neu Cyfnod Allweddol 3
  • Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 84 tudalen

Disgrifiad Gwales
Casgliad o farddoniaeth newydd, gyfoes gan Tudur Dylan, Gwion Hallam, Mererid Hopwood, Caryl Parry Jones, Mei Mac a Ceri Wyn wedi cael ei ysbrydoli gan fywyd ar goridorau ysgol; ar gyfer darllenwyr 13-16 oed. 32 llun du-a-gwyn.

Adolygiad Gwales
Anaml y mae llyfrau'n cerdded, ond mae’r gyfrol hon wedi diflannu oddi ar fy nesg droeon. Beth sydd i gyfrif am y diddordeb? Yn gyntaf, chwip o glawr gan yr artist Jac Jones sy’n rhewi storm o ddigwyddiadau difyr, digri a chyffrous y coridor ysgol. Yn ail, swp o gerddi gan chwech o feirdd sy’n gwybod sut mae difyrru, goglais a gafael yn y dychymyg.

Cyflwyna pob bardd ei hun gan ddweud gair am farddoni a barddoniaeth. Dyma gyfraniadau gwerthfawr sy’n ychwanegiadau pwysig a rydd gyfle i’r darllenydd ifanc a hen ddod i adnabod rhywfaint ar yr awduron a’r rheswm am lunio cerdd.

Os yw ambell un sy’n ei arddegau cynnar yn dychryn a diflasu wrth weld cerdd Gymraeg, dyma’r union donic iddo. Testun y gyfrol yw’r pethau y daw disgyblion ysgol Uwchradd ar eu traws. Rhydd Gwion Hallam sylw i’r bws ysgol a’r bwli, gyda cherdd grefftus ar ffurf Nodyn Salwch yn berl. Ond â’r pendil hefyd i’r dwys gyda soned am y ffrind a laddwyd mewn damwain foto-beic.

Caiff y merched lais yng ngherddi Mererid Hopwood, ac mae Caryl Parry Jones yn delio gyda thestunau mawr megis y 'Snog' a 'Fy mlewyn' gyda dogn dda o hiwmor. Yma hefyd y mae Tudur Dylan, Mei Mac a Ceri Wyn, yn canu am fod yn cŵl, mewn cariad ac yn yr ysgol, gyda’r gynghanedd a’r rhigwm megis erwydd cyfleus iddyn nhw gofnodi eu caneuon.

Ion Thomas