This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Ceidwad y Ceyrydd

  • £9.95
  • £0.00
  • Ceidwad y Ceyrydd
  • ISBN: 9781845276669
  • D. Islwyn Edwards
  • Cyhoeddi: Gorffennaf 2022
  • Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 180 tudalen

John Roderick Rees - tyddynnwr, prifardd ac athro - dyn syml ar un wedd ond dyn cymhleth mewn gwirionedd. Daw'r gwrthgyferbyniad hwn yn amlwg yn y gyfrol ddiflewyn-ar-dafod hon.

Gwybodaeth Bellach:

Mae hon yn fwy na bywgraffiad mae'n astudiaeth a dehongliad o feddylfryd dyn hynod yn byw mewn bro arbennig mewn cyfnod arbennig. Er hynny mae hi ymhell o fod yn blwyfol. Mae ardal Penuwch yn y cyfnod 1930-2000 yn feicrocosm o hanes ardaloedd mynyddig tebyg ledled Cymru.

Cawn ddarlun gonest a chynhwysfawr o John Roderick Rees, ei gryfderau ai wendidau. Does yma ddim gwyngalchu. Daw ei gryfderaun amlwg fel athro, bridiwr cobiau a dyn ei filltir sgwâr a fynnodd lynun glos wrth gors y bryniau. Daw ei wendidau yr un mor amlwg, ei ragfarnau, ei ystyfnigrwydd ai fethiant i faddau. Cawn y brogarwr digyfaddawd ar y naill law ond hefyd y lladmerydd a enillodd Goron Llanbed yn 1984 am gerdd a ganai glod mewfudwyr am gadwr ysgol leol yn agored a chynnal yr hen fythynnod, a fyddai, fel arall, yn furddunnod ac yn domen sgrap hen deuluoedd.

Yma cawn bortread o Gardi diwylliedig yn ei libart, 'ceidwad y ceyrydd', amddiffynnwr yr hen werthoedd a roes groeso i'r Saeson i'w fro am mai hwynt-hwy a'i hachubodd rhag dychwelyd i'w chyflwr gwyllt a chyntefig. "...prin i mi ddarllen cofiant mor drylwyr ac mor ymchwiliol erioed." adroddiad Cyngor Llyfrau Cymru