This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Cerddi y Tad a'r Mab (-Yng-Nghyfraith)

  • £5.00
  • £0.00
  • ISBN: 9780863818431
  • Awdur: Gwyn Erfyl, Geraint Lovgreen
  • Cyhoeddi Gorffennaf 2003
  • Fformat: Clawr Meddal, A5, 72 tudalen

Casgliad o 50 o gerddi gan ddau fardd sydd hefyd yn dad a mab-yng- nghyfraith, yr hynaf yn cynrychioli'r canu telynegol tra bo'r ieuengaf yn gwyro tuag at ganeuon dros ben llestri, yn cynnwys sgwrs rhyngddynt â Myrddin ap Dafydd am eu gweledigaeth a'u gwaith.

Adolygiad Gwales
Mae gennym ni duedd yng Nghymru i gategoreiddio pawb a phopeth. Mae rhywun yn awdur plant neu'n awdur storïau byrion, yn academaidd neu'n bropagandydd. Ac mae hyn yn arbennig o wir am farddoniaeth a beirdd. Mae'n rhaid i chi fod yn fardd caeth neu rydd, yn fardd tywyll neu ddoniol, yn hen fardd neu'n fardd ifanc. Ac mae rhai o'r beirdd ifanc erbyn hyn ymhell dros eu canol oed! Mae hi fel petaen ni ofn rhywun sy'n cyfuno'r caeth a'r rhydd, y dwys a'r doniol. A pheidiwch byth â rhoi'r hen a'r ifanc ar yr un llwyfan – rhag drysu'r gynulleidfa.

Diolch byth felly am gyfrol arall gan Wasg Carreg Gwalch sy'n torri tir newydd, gan gyfuno yn yr un gyfrol gerddi'r bardd a'r darlledwr Gwyn Erfyl, a cherddi a chaneuon ei fab-yng-nghyfraith, Geraint Lovgreen. Ar yr olwg gyntaf dyma ddau fardd cwbl groes i'w gilydd, gyda cherddi Gwyn Erfyl ar y cyfan yn ddwys, a nifer fawr o gerddi a limrigau Geraint Lovgreen yn gwbl wallgo – dyma enghraifft eithaf nodweddiadol:

‘Colli fy sgidie’

Mi godais yn gynnar un bore
a gofyn i Mam "lle mae'n sgidie?"
"Yn y bathrwm, y ffŵl,"
meddai hithau'n reit cŵl,
"den ni'n iwsio nhw yn lle toilede."

Ond mae ’na lawer yn gyffredin rhwng y ddau hefyd, ar wahân i foelni eu corunau. Er mor 'waci' ydi cerddi Geraint Lovgreen, mae ’na'n aml rhyw ergyd neu thema ddigon dwys yn cuddio o dan yr hiwmor, ac mae cerddi Gwyn Erfyl hefyd yn cyfuno'r dwys a'r ysgafn er mwyn ennyn ymdeimlad ac ymateb.

Mae'r ddau'n aelodau o dîm Talwrn y Beirdd Caernarfon, yn gantorion o ran anian, ac mae gan y ddau gysylltiadau agos â mwynder Maldwyn. Y mwynder hwnnw sy'n pefrio drwy gerddi'r gyfrol hon, cerddi all wneud i chi grio chwerthin a chwerthin crio. Ac mae'n braf medru troi at gyfrol lle nad yw pawb a phopeth yn disgyn i ryw ddrôr cyfleus.

Mor wir yw geiriau Gwyn Erfyl ar ddiwedd y seiat rhyngddo fo a Geraint a Myrddin ap Dafydd sy'n gyflwyniad difyr a gwerthfawr i'r gyfrol, "Does gynnon ni ddim diddordeb mewn dweud bod rhaid i bopeth fod yn syml ac yn glir, ond mae'n rhaid i'r awen hefyd gysylltu â phrofiadau pobol ar sawl lefel, ddim jest ar un lefel." Y cyfoeth profiadau hynny sy'n denu rhywun i droi'n ôl at amrywiaeth difyr y gyfrol hon dro ar ôl tro.

Iwan Llwyd