This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
- Chwedl Calaffate
- ISBN: 9781845278182
- Lleucu Gwenllian
- Cyhoeddi: Ebrill 2021
- Fformat: Clawr Meddal, 220x220 mm, 32 tudalen
Os ei di ir Wladfa, rwyt tin si?r o gael cynnig jam ffrwyth y Calaffate, ac rwyt tin sicr o weld y blodau aur tlws yn tyfu dros y paith. Yn ôl y sôn, caiff pawb syn blasur ffrwyth eu swyno i ddod yn ôl i Batagonia wyt ti eisiau clywed pam?
Bywgraffiad Awdur: Mae Lleucu Gwenllian yn ddarlunydd 24 oed sy'n wreiddiol o Flaenau Ffestiniog ac â BA mewn Darlunio ym Mhrifysgol De Cymru, Caerdydd. Felrhan o'r cwrs bu iddi gwblhau amryw o friffiau creadigol gwahanol, a gellir gweld esiamplau o'i gwaith ar ei gwefan lleucugwenllian.wixsite.com/lleucu-illustration/portfolio ac ar ei chyfrif Instagram @lleucuillustration
Gwybodaeth Bellach: Amser maith yn ôl, ymhell cyn bodolaeth y Wladfa, roedd merch ifanc dlos yn byw ymysg llwyth y Tehuelche pobl wreiddiol talaith Chubut. Un dydd wrth chwilio am baent i'w nain, dyma Calaffate yn cyfarfod bachgen o lwyth y Selk'nam gelynion y Tehuelche! Wrth i'r ddau sgwrsio dyma nhw'n disgyn mewn cariad, ond dydi llwybr cariad byth yn hawdd.
Dyma'r addasiad Cymraeg cyntaf o'r chwedl drist o gariad, brad a thorcalon, sy'n rhoi cipolwg i ni o fywyd ym Mhatagonia ymhell cyn i'r Cymry groesi'r môr yn 1865.