This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Chwedlau Cymru: Ceffylau

  • £4.99
  • £0.00
  • Chwedlau Cymru: Ceffylau
  • ISBN: 9781845277918
  • Fiona Collins
  • Cyhoeddi: Ebrill 2021
  • Golygwyd gan Nia Parry
  • Darluniwyd gan Natalie Griffiths
  • Fformat: Clawr Meddal, 212x150 mm, 50 tudalen

Dyma chwe chwedl neu stori o Gymru. Chwedlau am geffylau. Chwedlau am bobl enwog yn hanes Cymru fel y Brenin Arthur. Maer chwedlaun dod o sir y Fflint, Sir Gaerfyrddin, Gwynedd, Castell-nedd, Port Talbot a Dyfed. Rwyt tin gallu darllen chwedl am dy ardal di. Maen bwysig gwybod am dy ardal. Maen bwysig gwybod am chwedlau dy ardal. Addas ar gyfer Dysgwyr Cymraeg.

Bywgraffiad Awdur: Mae Fiona Collins yn byw ger Corwen, yn Sir Ddinbych. Mae hi wedi dysgu Cymraeg. Mae hi'n hoffi chwedlau neu storïau o Gymru yn fawr iawn. Ers y 1990au, mae hi'n gweithio fel chwedleuwr. Mae hi'n dweud hen straeon wrth bobl. Mae hi hefyd yn mwynhau cerdded, darllen a nofio. Dyma ei llyfr Cymraeg cyntaf.

Gwybodaeth Bellach: Dyma gyfrol o chwe chwedl Cymreig yn ymwneud â cheffylau a marchogion Cymru. Addaswyd y straeon gan y storiwraig Fiona Collins, sydd hefyd yn ddysgwraig ac yn enillydd Tlws Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2019.

Galan Mai mynychodd Fiona gwrs undydd Zoom i awduron cyfres Amdani gyda'r bwriad o gyfansoddi cyfrol lefel Mynediad ac aeth ati i gynhyrchu'r testun wedi hyn. Cafodd Fiona ei mentora gan Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ac Eirian Conlon, tiwtor hynod brofiadol sydd hefyd yn darparu deunyddiau addysgiadol i'r Ganolfan. Rydym hefyd wedi penodi Nia Parry fel golygydd sydd eisoes â phrofiad o olygu sawl llyfr ar draws y lefelau o Mynediad hyd at Canolradd i gydweithio â Fiona a Natalie a rheoli'r prosiect. Mae hi eisoes wedi bod yn trafod amserlen fanwl gyda Natalie a Fiona ac wedi cytuno ar gynllun gwaith ac amserlen.

Dywedir o hyd fod dysgu Cymraeg yn allwedd i fyd newydd ac i'n hanes a'n diwylliant a'n treftadaeth hi. I nifer, nid gwersi iaith ydyn nhw yn unig. Mae gan nifer fawr o ddysgwyr ddiddordeb brwd mewn dysgu am hanes a chwedloniaeth Cymru yn ogystal â defnyddio'r iaith i gyfathrebu o ddydd i ddydd. Noder nad oes fersiynau Saesneg llawn o rai o'r chwedlau sy'n cael eu cynnwys yn y llyfr hwn yn bodoli hyd yn oed. Canolbwyntiwyd ar chwedlau meirch, gan roi undod i'r casgliad a hefyd sicrhau bod yr un geiriau newydd yn ailymddangos mewn mwy nag un o'r chwedlau.