This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Clawdd Cam

  • £7.50
  • £0.00
  • ISBN: 9780863818585
  • Awdur: Myrddin ap Dafydd
  • Cyhoeddi Hydref 2003
  • Darluniwyd gan Sarah Young
  • Fformat: Clawr Meddal, 199x199 mm, 84 tudalen

Casgliad o farddoniaeth amrywiol gan y bardd poblogaidd Myrddin ap Dafydd, gyda darluniau deniadol o Sir Benfro gan Sarah Young.

Adolygiad Gwales
Bu beirdd ers dros ganrif bellach yn pryderu am ddyfodol y gynghanedd, a gwelwyd ambell ymgais i roi porfeydd lletach iddi, megis yn y vers libre gynganeddol. Pen draw’r arbrofi hwnnw oedd y llinellau hirion a gaed gan ambell fardd lle byddai’r glust wedi hen anghofio cytseiniaid dechrau’r llinell erbyn cyrraedd yr orffwysfa. Cynghanedd mathemateg a’r stydi oedd honno. Erbyn hyn cafodd y gynghanedd ail anadl mewn ffordd mwy naturiol o lawer, lle mae hi’n siarad yn ei dillad bob-dydd mewn cyfuniadau anhygoel o esmwyth, fel 'un wylan yn hollti’r niwloedd' neu 'daw’r haul yn ffrwd o rywle'. Un o feistri’r arddull newydd yw Myrddin ap Dafydd.

Asgwrn cefn Clawdd Cam yw’r cerddi a enillodd iddo gadair Tyddewi, 2002. Mae’r rheini wedi eu hau ar hyd y gyfrol, a phob un yr un mor ffres ag erioed. Da gen i weld yma hefyd gerdd i’r crefftwr a luniodd y gadair honno. Cyfaddefaf fy mod i yn un a amheuodd yn fawr gynllun y gadair pan gyflwynwyd ei llun i Fwrdd yr Orsedd, ac ni allodd fy llygaid gor-geidwadol i gymryd ati pan ddaeth i’r golwg ar lwyfan y Brifwyl. Ond mae’r gerdd, a roes ei theitl i’r gyfrol, yn ddychan deifiol am rai fel fi sy’n rhy hoff o’r 'llwybr troed', ac 'yn ofni i’n dail yn fwy na dim / fentro blaguro yn gam'. Dyma gerdd effeithiol a symbylwyd gan y ddraenen ddu, a'i thyfiant afrywiog anghonfensiynol dros gefn y gadair.

Y mae’r casgliad yn amrywiol a sylweddol, a dilysrwydd byw yn ei ddelweddau. Cawn ganddo gyfeiriadaeth draddodiadol, fel y cyffyrddiadau celfydd at Aberhenfelen a Gwyn ap Nudd a Rhiannon, ond y mae’r dweud yn fyrlymus gyfoes, yn farddoniaeth yr unfed ganrif ar hugain. Mae yma gerdd am ein hagweddau at GM, gan ddwyn i’n cof ladd protestiwr ifanc gan un o’r Carabinieri yng nghynhadledd yr G8 yn Genoa 2001. Ceir cerddi hwyl ynghanol iobs pêl-droed Lloegr, ac un i Cassius Clay. Dau ddilyniant, a cherddi am blant a cherddi perfformiadau tafarn. Ar lawer tudalen ceir perlau, fel y delyneg o gywydd i 'Ynys Dwynwen', sy’n llawn o bosibiliadau dehongliadau dyfnion. Profodd y gyfrol hon eto fod yma fardd sy’n medru gweld a chyfathrebu.

Ychwanegwch at y boddhad hwn i gyd dros bymtheg o luniau trawiadol gan Sarah Young, a dyna ichi lyfr deniadol ei ddiwyg a’i gynnwys.

John Gwilym Jones