This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
- Cofiwch Olchi Dwylo a Negeseuon Eraill
- ISBN: 9781845277925
- Geraint Lewis
- Cyhoeddi: Mehefin 2021
- Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 148 tudalen
Tref ddychmygol ar arfordir Ceredigion yn ystod y Clo Mawr yw lleoliad y gyfrol ddifyr hon o straeon byrion. Cawn gwrdd ag ystod eang o gymeriadau, o Nathan saith oed syn gweld eisiau ei dad sydd yn y carchar i Enid syn bryderus wrth hunan-ynysu yn y t? y ganwyd hi ynddo naw deg pedwar o flynyddoedd yn ôl
Bywgraffiad Awdur:
Mae Geraint Lewis yn hanu o Dregaron, Ceredigion. Cyhoeddodd dair nofel, sef X, Daw Eto Haul a Haf o Hyd, i gyd i Wasg Carreg Gwalch a dwy gyfrol o straeon byrion, Y Malwod (Annwn) a Brodyr a Chwiorydd (Y Lolfa). Enillodd gystadleuaeth Stori Fer Cymdeithas Allen Raine ac ef oedd enillydd cyntaf Gwobr Stori Fer Tony Bianchi yn 2019. Bu'n ysgrifennun helaeth i'r theatr, radio a theledu. Maen byw yn Aberaeron gyda'i wraig, Siân. www.geraintlewis.net
Gwybodaeth Bellach:
Steddfod 'di canslo, 'achan.
Deith hi 'nôl wap. Pethe'n normal 'to.
O'dd pethe byth yn normal rownd ffor' hyn.Mawrth 2020, a daeth Clo Mawr Covid 19 i'r dref fechan hon ar arfordir Ceredigion fel y daeth i weddill Cymru. Dechreuodd ei thrigolion brynu gormodedd o bapur t? bach, gwnaethpwyd trefniadau i ofalu am anghenion anwyliaid, a sleifiodd ambell un o ddinasoedd mawrion i dreulio'r clo wrth lan y môr. Wrth i'r gwanwyn droi'n haf, ac wrth i'r clapio ar stepen y drws ddistewi, daw haul ar fryn wrth i ffrindiau gyfarfod, ond mae ambell un yn galaru ... 'Dyma awdur gwreiddiol syn meddu ar ddychymyg byw.' Marlyn Samuel