This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Craig yr Oesoedd/True Grit

  • £20.00
  • £0.00
  • ISBN: 9781845273323
  • Cyhoeddi Gorffennaf 2011
  • Golygwyd gan Myrddin ap Dafydd, Susan Walton
  • Darluniwyd gan Ifor Pritchard
  • Fformat: Clawr Caled, 215x265 mm, 80 tudalen

Disgrifiad Gwales
Pan fu Ifor Pritchard farw ar ddechrau gaeaf 2010, roedd wedi cyrraedd anterth ei ail-enedigaeth fel arlunydd. Dechreuodd greu ei ddarluniau olew yn ymwneud â bywyd chwarelyddol Eryri gwta chwe mlynedd cyn hynny ac yn ystod y cyfnod hwnnw defnyddiodd ei allu deheuig a\'i ddychymyg dwys i gofnodi arferion a chaledi a sgiliau yr hen chwarelwyr.

Bywgraffiad Awdur:
Roedd Ifor Pritchard yn ŵr aml ei ddoniau. Fel y canol o dri mab Robert Alun a Maggie Jane daeth yn bêl-droediwr o fri – enillodd dri chap amatur rhyngwladol dros Gymru fel gôl-geidwad. Dechreuodd ar ei yrfa fel athro celf yn 1964 wedi treulio cyfnod yng Ngholeg y Normal a Choleg Celf Caerdydd. Treuliodd bron y cwbwl o’i yrfa fel pennaeth celf Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon, hyd nes iddo ymddeol yn 1992. Priododd â Gwyneth ei gymar mynwesol, a bu’n dad annwyl i Sian ac Alun.