This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Cynefin, Cymru a'r Byd

  • £18.99
  • £0.00
  • Cynefin, Cymru a'r Byd
  • ISBN: 9781845279301
  • Cyhoeddi: Chwefror 2024
  • Fformat: Clawr Caled, 215x138 mm, 240 tudalen

Dechrau wrth ein traed ac ehangu gorwelion i bob cwr o'r ddaear yw nod y gyfrol hon. Mae'n cynnwys holl elfennau Daearyddiaeth: nodweddion ffisegol, dinasyddiaeth a'r amgylchedd naturiol.

Gwybodaeth Bellach:

Yr hyn sy'n ei gwneud yn gyfrol arbennig yw ei bod yn hollol unigryw i Gymru ac yn ymestyn i gynnwys pynciau eraill fel hanes, llenyddiaeth, hunaniaeth, celf ac yn cynnwys enghreifftiau o ddiwylliannau a chrefyddau eraill.

Y cynefin yw'r man cychwyn. Bro, ardal, dalgylch - ond mae cymaint mwy na hynny hefyd yn nyfnderoedd a gwreiddiau y gair 'cynefin'. Oddi yno, cawn ymestyn i weld Cymru gyfan a'i holl amrywiaeth. Yna, canfod lle ein gwlad ar wyneb y ddaear ac yn nyfodol y byd.

Mae'r gyfrol yn wynebu problemau cyfoes a phynciau llosg y dydd. Ond y mae hefyd yn dangos bod atebion, bod ffordd ymlaen.

Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2-3 (11-14 oed)