This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Dan Deimlad, Dan Chwerthin (Cerddi Lloerig)

  • £4.50
  • £0.00
  • ISBN: 9781845270575
  • Cyhoeddi Mai 2007
  • Golygwyd gan Myrddin ap Dafydd
  • Darluniwyd gan Sion Morris
  • Addas i oed 7-9+ neu Cyfnod Allweddol 2/3
  • Fformat: Clawr Meddal, 196x128 mm, 72 tudalen

Cerddi i blant yn sôn am deimladau. Sonnir am bob math o deimladau mewn ffordd ddifyr a bywiog.

Adolygiad Gwales
Cyfrol o gerddi amrywiol yn ymdrin yn bennaf â theimladau a geir yma. Trwy gyfrwng cerddi gan wahanol feirdd, a rhai wedi'u hysgrifennu gan ddosbarthiadau o blant, cawn ein tywys i sefyllfaoedd cyfarwydd beth bynnag fo’ch oedran. Ceir yr ysgafn a’r difrifol, yr ansicrwydd a’r gorfoledd, y cyffro a’r tristwch ochr yn ochr. Byd yr Eisteddfod a chystadlu, gorfoledd sgorio gôl, yr ofn o wynebu bwli a gwacter colli perthynas agos yw cynnwys rhai o’r cerddi sy’n cael eu cyflwyno mewn modd ysgafn ond ystyrlon.

Yn naturiol, oherwydd y gwahanol feirdd, mae arddull, iaith, cynnwys a safbwynt y cerddi yn amrywio'n fawr ac mae hyn yn ychwanegu at gryfder y gyfrol. Braf hefyd yw gweld defnydd o dafodiaith o fewn y gyfrol, ac mae’r cynnwys yn bendant yn mynd i ennyn diddordeb y darllenwyr ifanc gan y byddant yn medru uniaethu â nifer helaeth o’r sefyllfaoedd a’r teimladau.

Mae’n gyfrol sy’n gwneud barddoniaeth yn gyfrwng cyffrous a diddorol ac mae ei chynnwys yn berthnasol i’r darllenwyr. Yn ogystal, mae'r gyfrol yn fodd i ymdrin a deall sefyllfaoedd a theimladau'n well.

Ffion Bowen