This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Dedfryd Oes

  • £8.50
  • £0.00
  • Dedfryd Oes
  • ISBN: 9781845278533
  • Emyr Evans
  • ISBN: 9781845278533
  • Cyhoeddi: Mai 2022
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 230 tudalen

Ebrill 1988. Mae Siôn yn fyfyriwr yn Aberystwyth ac yn fodlon gweithredu dros ei wlad. Mae popeth wedi'i drefnu a'r t? haf yn wag, ond mae penderfyniad byrbwyll cyfaill yn chwalu bywyd Siôn yn yfflon. Nofel am fentro, am egwyddorion, am gyfeillgarwch ac am droi cefn.

Bywgraffiad Awdur:

Brodor o Gwrtnewydd yn ne Ceredigion yw Emyr Evans. Ar ôl ennill gradd mewn Ffiseg cymhwysodd yn athro, ac yn ogystal â dysgu mae wedi gweithio yn y maes trwsio awyrennau, yn y byd niwclear, ir heddlu ac i gwmnïau cynhyrchu bwyd a phersawr. Ar un cyfnod roedd yn gyfrifol am iechyd a diogelwch ar hyd a lled y DU, Ewrop, Tsieina, Awstralia a Der Affrig i gwmnïau o America.

Mae bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerwys, Sir y Fflint gydai wraig, ei dwy ferch ar ci. Ymysg ei ddiddordebau mae barddoni, nofio tanddwr a sgïo. Hon yw ei nofel gyntaf.

Gwybodaeth Bellach:

"Chi'n gwybod y drefen, bois. Dim trais. Dim mentro dim. Dy'n ni'r Meibion ddim yn mynd i niweidio unrhyw un byth bythoedd." Nofel yn seiliedig ar yr ymgyrch losgi tai haf oedd yn ei fri yng Nghymru yn y 1980au, a'r hyn a allai fod wedi digwydd petai un o'r Meibion wedi cael ei ddal a'i garcharu ar y pryd. Mae Sion yn gwrthod enwi ei gyd-losgwyr, ac mae'r penderfyniad hwnnw yn llywio ei fywyd o'r funud honno ymlaen.

Caiff ei garcharu am ddeunaw mlynedd am losgi eiddo a dynladdiad, ac erbyn iddo gael ei ryddhau mae Cymru yn lle gwahanol iawn, a'i deulu a'i ffrindiau wedi symud ymlaen hebddo. All o ffeindio ei le yn ei hen gymuned, neu oes raid iddo ddechrau o'r newydd a rhoi ei hen ddaliadau a'i gredoau o'r neilltu?