This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
- ISBN: 9781845272470
- Awdur: Anthony Griffiths
- Cyhoeddi Mai 2010
- Fformat: Clawr Meddal, 220x220 mm
Disgrifiad Gwales
Dathliad o\'r tir gwyllt olaf yng Nghymru yw\'r gyfrol hon. Gorwedd Elenydd, hen berfeddwlad Gymreig yng nghalon Mynyddoedd Cambria gan ymestyn o Laslyn yn y gogledd i Lyn Brianne yn y de; o Gors Caron yn y gorllewin i Abaty Cwm-hir yn y dwyrain. Mae\'n rhostir agored yn nannedd y gwynt gyda bryniau tonnog, cymoedd dyfnion, gorwelion eang ac unigedd sy\'n llesol i\'r enaid.
A photographic celebration of the wilderness at the heart of the Cambrian Mountains. It ranges from Glaslyn in the north to Llyn Brianne in the south, from Cors Caron in the west to Abbeycwmhir in the east. It is a wild expanse of moors, rolling hills, deep valleys, wide skies and a welcome solitude, a landscape with a rich historical, archaeological and cultural past.
Bywgraffiad Awdur:
Ganwyd Anthony Griffiths ym Mangor a chafodd ei fagu yn Aberystwyth, lle mae’n byw o hyd. Mae’n gitarydd acwstig uchel ei barch a bu’n rhan o fand Meic Stevens am flynyddoedd. Mae’r gyfrol hon yn mynegi ei angerdd a’i gariad dwfn at ardal Elenydd mewn cyfres o luniau trawiadol, wedi’u tynnu ymhob tywydd ac ym mhob tymor. Anthony hefyd sydd wedi sgwennu’r testun sydd eto’n dangos ei fod wedi treiddio yn is na’r hyn sydd i’w weld ar wyneb y tir yn unig.
Gwybodaeth Bellach:
Yn archaeolegol, hanesyddol a diwylliannol, mae’n fro sy’n llawn trysorau. Mae’n ardal o harddwch naturiol – ond heb dderbyn y statws swyddogol honno eto. Mae’r ffotograffydd Anthony Griffiths yn mynegi dyfnder ei gariad a’i ddealltwriaeth o’r ardal yn ei luniau gwych a’i ysgrifau.
Mae’r hen berfeddwlad hon yng nghalon Mynyddoedd Cambria. Yn ei ganol mae cronfeydd dãr anferthol Dyffryn Elan. Cyfeiriwyd at yr ardal fel ‘Anialdir Gwyrdd’ Cymru ac erbyn hyn mabwysiadwyd yr enw cyfrin Elenydd arni. Nid enw newydd mo hwn chwaith – mae’n cael ei grybwyll yn y Mabinogi. Ar ei daith drwy Gymru yn 1188, mae Gerallt Gymro yn dweud wrth iddo adael Ystrad Fflur: ‘Oddi yno teithiasom ymlaen, gan adael o’n hôl ar y llaw dde, fynyddoedd mawreddog Moruge, a elwir yn y Gymraeg yn Elenydd’.
Author Biography:
Anthony Griffiths was born in Bangor and grew up in Aberystwyth, where he now lives. He is a well-known acoustic guitarist. In the latest of his photographic books he expresses his love for Elenydd in his images and text.
Further Information:
An area of outstanding natural beauty – though not yet officially designated as such. Photographer Anthony Griffiths expresses his love for Elenydd in glorious images and insightful text.
This, Wales’ last wilderness, lies at the heart of the Cambrian Mountains. At its centre are the great reservoirs of the Elan Valley. The area is often referred to as the Great or Green Desert of Wales, and nowadays by the rather enigmatic name of Elenydd. The name is not recent, it is mentioned in the Mabinogion. Gerald of Wales (Giraldus Cambrensis), in his journey through Wales in 1188, says after leaving Strata Florida: ‘From there we journeyed on, leaving on our right the lofty mountains of Moruge, called Elenydd in Welsh’.