This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Gweld Sêr (Atgofion drwy Ganeuon)

  • £8.00
  • £0.00
  • Gweld Sêr Atgofion drwy Ganeuon
  • ISBN: 9781845278588
  • Cyhoeddi: Hydref 2022
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 150 tudalen

Bu Siân yn plycio'r tannau ac yn canu ers dyddiau ei phlentyndod. Yma cawn ganddi hunan-ddadansoddiad clir a gonest wrth iddi olrhain cysylltiadau byd-eang yn cydweithio gyda sêr y byd gwerin. Drwy ganeuon a'u harwyddocâd cawn yma hanes y ferch o Faldwyn - weithiau'n ddoniol, weithiau'n ingol. Ac yn onest drwyddi draw.

Gwybodaeth Bellach:

... dwin grediniol bod arbrofi yn medru chwistrellu bywyd in traddodiadau cerddorol dim ond bod y gwreiddiol yn saff ac wedi ei warchod, ar dystiolaeth or hen ffyrdd gwreiddiol o ganu yn cael eu trafod au dysgu au hastudio au trysori. Siân James

Datganiad di-flewyn-ar-dafod un syn crisialur bwrlwm sydd wedi adfywio ein cerddoriaeth werin yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Boed yn gantores unigol neun aelod o gr?p, fel Bwchadanas yng nghanol yr 80au neu Pedair heddiw, prin bod neb wedi ac yn cyfrannu mwy na Siân James.