This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
- Gwrthwynebwyr Cydwybodol i'r Rhyfel Mawr
- ISBN: 9781845276690
- Aled Eirug Cyhoeddi Medi 2018
- Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 212 tudalen
Bur awdur yn ymddiddori yn y maes pwysig hwn ers ei gyfnod yn fyfyriwr yn Aberystwyth yn y 1970au. Yn 2010 aeth ati i ymchwilio o ddifrif yn y maes ar gyfer ei ddoethuriaeth dan oruchwyliaeth yr Athro Chris Williams, Prifysgol Caerdydd, a ffrwyth yr ymchwil ywr gyfrol hon. Tra bod haneswyr eraill megis Robin Barlow yn Saesneg a Gwyn Jenkins yn y Gymraeg wedi cyhoeddi cyfrolau am sgileffeithiaur Rhyfel Byd Cyntaf ar y gymdeithas Gymreig, Dr Aled Eirug ywr unig un a aeth ati i geisio asesur rhesymau amrywiol a ysgogodd cynifer o Gymry i ddod yn wrthwynebwyr cydwybodol. Daeth gorfodaeth filwrol i rym yng ngwledydd Prydain am y tro cyntaf yn ystod mis Ionawr 1916, ar rhyfel yn ei anterth, gyda bron i fil o ddynion o Gymru yn gwrthod ymuno âr fyddin neur llynges. Maes glo de Cymru oedd un or ardaloedd mwyaf milwriaethus yn wleidyddol drwy Brydain gyfan ar ddechraur Rhyfel Mawr. A thrwy gydol y Rhyfel, ffrwtiair gwrthwynebiad i amgylchiadau byw anodd ac annhegwch meistri tuag at eu gweithwyr, gan ferwi drosodd yn achlysurol drwy gyfrwng gweithredu diwydiannol a phrotestio yn erbyn y rhyfel. Fel y dangosir yn glir iawn yn yr astudiaeth hon, daliadau crefyddol yn bennaf oedd wrth wraidd ystyfnigrwydd amryw or rhai a wrthwynebair rhyfel. Roedd ystyriaethau moesol yn hollbwysig i eraill, a rhesymau gwleidyddol pur a gyflyrai nifer fechan ohonynt i wrthwynebu. Chwalwyd ers peth amser y myth poblogaidd ir Cymry ymateb yn fwy brwdfrydig ir alwad i ymuno â'r lluoedd milwrol na thrigolion gwledydd eraill Prydain yn hydref 1914. Dywed Dr Eirug wrthym i dde Cymru ddatblygun un o ardaloedd gwrth-filitaraidd mwyaf Prydain. A daeth amryw or gwrthwynebwyr hyn yn unigolion tra dylanwadol yn hanes ein cenedl yn ystod yr ugeinfed ganrif, yn eu plith y gwleidydd Llafur Emrys Hughes AS, y beirdd ar ysgolheigion D. Gwenallt Jones ac T. H. Parry-Williams, yr undebwr ar Comiwnydd Arthur Horner, y ffigwr cyhoeddus Ithel Davies (g?r y bu modd i Aled Eirug ei gyfweld yn bersonol yn y 1970au), ar heddychwr mawr George M. Ll. Davies. Mae pob un or rhain yn derbyn sylw reit fanwl o fewn yr astudiaeth hon. Felly hefyd mudiadau perthnasol fel y Crynwyr (yr unig enwad crefyddol a ystyriai heddychiaeth yn gonglfaen sylfaenol iw ffydd) ar Blaid Lafur Annibynnol, undebaur glowyr, grwpiau o heddychwyr tanbaid fel Cymdeithas y Cymod a fun amlwg mewn rhai ardaloedd, a chyhoeddiadau dylanwadol fel Y Deyrnas, a fun hynod o boblogaidd ledled Cymru, a The Pioneer, papur newydd cymoedd de Cymru a werthai deng mil o gopïau yn ardal Merthyr Tudful yn unig. Roedd y gwrthwynebwyr cydwybodol gan gynnwys taid Aled Eirug ei hun, sef y Parch T. Eirug Davies yn cael amser caled tu hwnt yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan wynebu cyhuddiadau o fod yn fradwyr a llwfrgwn na haeddai barch na chydnabyddiaeth gan gymdeithas. Bu farw rhai o ganlyniad ir driniaeth gawson nhw yn y carchar yn ystod y rhyfel, a hyd yn oed ar ôl ir ymladd ddod i ben, cyndyn iawn oedd y gymdeithas iw derbyn au parchu. Maer Dr Aled Eirug yn pwysleisio: Wrth inni gofior Rhyfel Mawr, maen bwysig nad aberth y milwyr a fu farw yn y rhyfel sydd yn cael ei gofio yn unig, ond hefyd, dewrder ac aberth y dynion hynny a erlidiwyd oherwydd eu penderfyniad i sefyll yn erbyn pwysau cymdeithasol, crefyddol a gwleidyddol yr oes. Erbyn heddiw edmygir eu dycnwch, ac eto, oherwydd agweddaur gorffennol, erys llawer ou hanes yn anhysbys. J. Graham Jones