This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Hunanbortread David Griffiths

  • £9.50
  • £0.00
  • Hunanbortread David Griffiths
  • ISBN: 9781845278359
  • David Griffiths
  • Cyhoeddi: Medi 2021 Golygwyd gan Arfon Haines Davies
  • Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 164 tudalen

Bomiau Hitler a yrrodd teulur David Griffiths ifanc o lannau Merswy i fyw ym Mhwllheli. Hynny, meddai, yn yr hunangofiant hynod a darllenadwy hwn, ai gwnaeth yn arlunydd wrth iddo dderbyn arweiniad gan Elis Gwyn, ei athro yn yr Ysgol Ramadeg.

Gwybodaeth Bellach:

Treuliodd bedair blynedd yn Ysgol Gelf y Slade yn Llundain ac wedi cyfnod fel athro celf, agorodd oriel ym Mhwllheli yn 1964. Y flwyddyn ganlynol, roedd ganddo ran allweddol yn sefydlu oriel yr Albany yng Nghaerdydd. Yn fuan wedi hynny, gwireddwyd ei freuddwyd i fod yn artist amser llawn. Yn ystod ei yrfa, peintiodd bortreadau o rai o wynebau enwocaf Cymru gan gynnwys Gwynfor Evans, Rhodri Morgan, Dafydd Wigley, Cynan, Syr Geraint Evans, Syr Bryn Terfel, Shane Williams, Barry John, Siân Phillips ac yn fwyaf diweddar Elin Jones, Llywydd y Senedd. Maen ddiddorol hefyd clywed ei atgofion am nifer o artistiaid eraill y cyfnod gan gynnwys Kyffin Williams, Ceri Richards, Donald McIntyre, Josef Herman, Charles Wyatt Warren a Wil Roberts. Un oi gomisiynau cyntaf oedd portreadu Cynan. Cawn gip ar y bersonoliaeth ar bywyd teuluol yr ochr draw i ganfas yr arlunydd gan David Griffiths ac maei atgofion am Cynan yn nodweddiadol o hynny: Cefais groeso gwresog gan Cynan a Mrs Jones cyn iddi esgusodi ei hun i fynd i baratoi cinio. Gofynnodd Cynan i mi os oeddwn yn ffansïo diod gan agor cabinet coctel gyda dewis cynhwysfawr o ddiodydd. Teimlais ei bod hin well gwrthod rhag iddo gael y syniad anghywir am artist ifanc a oedd yn mynd iw ddarlunio. Treuliais ychydig amser yn braslunio ac yn tynnu lluniau gyda fy nghamera. Y peth nesaf a wyddwn oedd bod Mrs Jones yn rhedeg i mewn ir stafell yn hynod o ypsét. Dwi wedi llosgir cinio! meddai. Y pryd cyntaf i mi baratoi iddo ... dwi wedi llosgi cinio Cynan! Teimlais ei bod hin amser i mi wneud fy esgusodion a gadael!