This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
- ISBN: 9781845271930
- Cyhoeddi Hydref 2008
- Golygwyd gan Arthur Thomas
- Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm
Casgliad o farddoniaeth a rhyddiaith Huw Sêl, atgofion a theyrngedau a manylion ei waith fel saer.
Gwybodaeth Bellach:
Huw Selwyn Owen oedd ei enw swyddogol, ond fel Huw Sêl neu'r 'Saer' y câi ei nabod gan bawb. Roedd yn grefftwr gyda dawn dwy genhedlaeth arall o seiri gwlad yn llifo drwy'i wythiennau. Arferai'r grefft honno gyda balchder yn ei weithdy sinc yn sgwâr y crefftwyr yn Ysbyty Ifan.
Yn nhraddodiad gorau gweithdy'r saer, roedd cwt Huw yn senedd-dy i'w fro. Câi pynciau'r dydd eu trafod yno – popeth oedd yn agos at galon y Saer, o fyd y ddrama i Gymdeithas yr Iaith; o'r papur bro i awdlau cenedlaethol; o ddathliadau'r gymdeithas leol i daeogrwydd a dyfalbarhad ei genedl. Heb dynnu'i lygad oddi wrth ei goed a'i arfau, byddai gan y Saer farn groyw a ffraeth ar bopeth a bu'i ddylanwad yn drwm ar sawl cenhedlaeth ifanc a fu yno yn y siafins gydag o.
'Rhy hen a rhy wahanol' oedd disgrifiad Huw ohono'i hun i'r oes frysiog, fodern. Yng nghanol ffolinebau'r oes honno, mae'n werth oedi eto uwch ben geiriau a gweledigaeth Huw Sêl.